Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 23

Breuddwydion Pharo

Breuddwydion Pharo

AETH dwy flynedd heibio ac roedd Joseff dal yn y carchar. Roedd y trulliad wedi anghofio’n llwyr amdano. Un noson, cafodd Pharo ddwy freuddwyd ryfedd nad oedd yn eu deall o gwbl. Fedri di weld Pharo yn cysgu ar ei wely? Drannoeth, anfonodd Pharo am ei ddoethion a gofynnodd iddyn nhw esbonio’r breuddwydion. Ond doedd neb yn gallu dweud beth oedd ystyr y breuddwydion.

Yn fwyaf sydyn, cofiodd y trulliad am Joseff. Dywedodd wrth Pharo: ‘Pan oeddwn i yn y carchar, roedd dyn a oedd yn gallu dehongli breuddwydion.’ Ar unwaith, gorchmynnodd Pharo iddyn nhw fynd i nôl Joseff o’r carchar.

Dechreuodd Pharo ddweud hanes ei freuddwydion wrth Joseff: ‘Gwelais saith o wartheg tew. Wedyn, gwelais saith o wartheg tenau, esgyrnog. Bwytaodd y gwartheg tenau y rhai tew.

‘Yn fy ail freuddwyd, gwelais saith dywysen lawn a da yn tyfu ar un gwelltyn. Yna, gwelais saith dywysen wael, wedi eu crino gan y gwynt. Ac fe lyncodd y tywysennau gwael y rhai da.’

Dywedodd Joseff wrth Pharo: ‘Un ystyr sydd i’r ddwy freuddwyd. Mae’r saith o wartheg da a’r saith dywysen dda yn golygu saith mlynedd, ac mae’r saith o wartheg tenau a’r saith dywysen fain a thenau yn golygu saith mlynedd arall. Daw saith mlynedd pryd y bydd digonedd o fwyd yn tyfu yn yr Aifft. Wedyn, daw saith mlynedd o newyn pan fydd ychydig iawn o fwyd yn tyfu.’

Felly dywedodd Joseff wrth Pharo: ‘Dewiswch ddyn doeth i arolygu’r gwaith o gasglu bwyd a’i storio yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd. Yna, fydd y bobl ddim yn llwgu pan ddaw’r saith mlynedd o newyn.’

Roedd Pharo yn hoffi’r syniad, a dewisodd Joseff i fod yn gyfrifol am gasglu’r bwyd a’i gadw mewn storfeydd. Ac eithrio Pharo ei hun, Joseff oedd y dyn pwysicaf yn yr Aifft.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, a’r newyn yn dechrau cydio o ddifrif yn yr ardal, fe welodd Joseff ddynion yn dod. Wyt ti’n gwybod pwy oedden nhw? Ie, dyma ddeg o’i frodyr yn cyrraedd! Roedd eu tad wedi eu hanfon i’r Aifft i brynu ŷd oherwydd bod bwyd wedi mynd yn brin yng ngwlad Canaan. Roedd Joseff yn adnabod ei frodyr, ond doedden nhw ddim yn ei adnabod ef. Wyt ti’n gwybod pam? Roedd Joseff wedi tyfu’n ddyn, ac roedd yn gwisgo math gwahanol o ddillad.

Cofiodd Joseff am y breuddwydion a gafodd pan oedd yn blentyn. Yn y breuddwydion hynny roedd ei frodyr yn ymgrymu o’i flaen. Wyt ti’n cofio darllen am hynny? Roedd Joseff yn deall bod Duw wedi ei anfon i’r Aifft am reswm da. Wyt ti’n gwybod beth wnaeth Joseff nesaf? Gad inni weld.