Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 25

Symud i’r Aifft

Symud i’r Aifft

NID oedd Joseff yn gallu cuddio ei deimladau bellach. Anfonodd ei weision allan o’r ystafell. Ar ôl iddyn nhw fynd, torrodd Joseff i wylo. Safodd ei frodyr yn syn, oherwydd doedden nhw ddim yn deall pam ei fod yn crio. O’r diwedd, dywedodd Joseff: ‘Joseff ydw i. Ydy fy nhad yn dal yn fyw?’

Roedd ei frodyr wedi syfrdanu gymaint fel nad oedden nhw’n medru dweud yr un gair. Roedd ofn mawr arnyn nhw. Ond dywedodd Joseff: ‘Dewch yn nes ata’ i.’ Dyma nhw’n mynd ato, a dywedodd yntau: ‘Joseff eich brawd ydw i, yr un a werthoch chi’n gaethwas i’r Aifft.’

Aeth Joseff yn ei flaen i ddweud yn garedig: ‘Peidiwch â beio eich hunain am fy ngwerthu. Duw a’m hanfonodd i’r Aifft er mwyn achub bywydau. Mae Pharo wedi fy mhenodi yn bennaeth ar yr holl wlad. Felly, brysiwch adref a dweud wrth fy nhad am yr hyn sydd wedi digwydd imi. A dywedwch wrtho am ddod yma i fyw ata’ i.’

Yna, cofleidiodd Joseff ei frodyr i gyd a’u cusanu. Pan glywodd Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, dywedodd wrtho: ‘Gad iddyn nhw gymryd wageni a mynd i nôl dy dad a’r teulu i gyd. Fe gân nhw’r tir gorau yn yr Aifft.’

A dyna beth a wnaethon nhw. Yn y llun, fe weli di Joseff yn cofleidio ei dad ar ôl iddo gyrraedd yr Aifft gyda gweddill y teulu.

Roedd teulu Jacob wedi tyfu’n fawr. Pan symudon nhw i’r Aifft, roedd 70 ohonyn nhw, gan gyfrif Jacob, ei blant, a’i wyrion. Ar ben hynny, roedd gwragedd y dynion a llawer o weision hefyd. Fe wnaeth pawb ymgartrefu yn yr Aifft. Cawson nhw eu galw’n Israeliaid oherwydd bod Duw wedi newid enw Jacob i Israel. Roedd yr Israeliaid yn genedl arbennig iawn i Dduw, fel y gwelwn ni yn nes ymlaen.