Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 26

Ffyddlondeb Job

Ffyddlondeb Job

A WYT ti’n teimlo bechod dros y dyn druan yma? Ei enw yw Job a’r ddynes yw ei wraig. Mae hi’n dweud wrth Job: ‘Melltithia Dduw a marw.’ Gad inni weld pam y dywedodd hi’r fath beth a pham roedd Job yn dioddef gymaint.

Dyn ffyddlon ac ufudd oedd Job. Roedd yn byw yng ngwlad Us, heb fod ymhell o Ganaan. Roedd Jehofa yn caru Job yn fawr, ond roedd rhywun arall yn ei gasáu. Wyt ti’n gwybod pwy oedd hwnnw?

Ie, Satan y Diafol, yr angel drwg sy’n casáu Jehofa. Llwyddodd Satan i berswadio Adda ac Efa i fod yn anufudd i Jehofa, ac roedd yn meddwl y byddai’n medru perswadio pawb arall hefyd i fod yn anufudd. Ond a oedd hynny’n wir? Nac oedd. Meddylia am yr holl bobl ffyddlon rydyn ni wedi darllen amdanyn nhw. Wyt ti’n cofio enwau rhai ohonyn nhw?

Ar ôl i Jacob a Joseff farw yn yr Aifft, Job oedd y dyn mwyaf ffyddlon yn y byd. Roedd Jehofa am ddangos na fyddai Satan yn medru troi pawb yn ddrwg, felly, fe ddywedodd wrtho: ‘Wyt ti’n gweld pa mor ffyddlon ydy Job?’

Ond atebodd Satan: ‘Mae’n ffyddlon iti oherwydd dy fod yn ei fendithio. Ond petaet ti’n cymryd popeth oddi arno, fe fyddai’n dy felltithio di.’

‘Gwna di fel y mynni,’ meddai Jehofa. ‘Fe gei di gymryd popeth oddi arno ac fe gawn ni weld a fydd yn fy melltithio neu beidio. Ond, chei di ddim lladd Job.’

Yn gyntaf, achosodd Satan i ladron ddwyn gwartheg a chamelod Job. Cafodd ei ddefaid eu lladd. Lladdwyd pob un o feibion a merched Job mewn storm. Yna, cafodd Job ei daro â salwch ofnadwy. Roedd Job yn dioddef yn enbyd. Dyna pam y dywedodd ei wraig: ‘Melltithia Dduw a marw.’ Ond ni fyddai Job yn gwneud hynny. Daeth tri ffrind ffals i’w weld a dweud bod Job wedi gwneud rhywbeth drwg i haeddu hyn i gyd. Ond cadwodd Job ei ffydd yn Nuw.

Roedd Jehofa wrth ei fodd a bendithiodd Job a’i wella o’i salwch, fel y gweli di yn y llun. Rhoddodd i Job ddeg plentyn arall a dwywaith cymaint o wartheg, defaid, a chamelod.

A fyddi di bob amser yn ffyddlon i Jehofa fel yr oedd Job? Os byddi di, fe fydd Jehofa yn dy fendithio di hefyd. Fe gei di fyw am byth ar ôl i’r byd gael ei droi’n baradwys hardd fel gardd Eden gynt.

Job 1:1-22; 2:1-13; 42:10-17.