Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 27

Brenin Drwg yn yr Aifft

Brenin Drwg yn yr Aifft

MAE’R dynion hyn yn gorfodi’r bobl i weithio. Edrycha ar y dyn sy’n chwipio un o’r gweithwyr! Disgynyddion Jacob, yr Israeliaid, yw’r gweithwyr. Eifftiaid yw’r dynion sydd yn eu gorfodi i weithio mor galed. Roedd yr Israeliaid wedi dod yn gaethweision i’r Eifftiaid. Sut digwyddodd hynny?

Am flynyddoedd lawer, roedd teulu mawr Jacob yn byw yn heddychlon yn yr Aifft. Joseff oedd y dyn pwysicaf yn y wlad heblaw am Pharo ei hun, ac roedd Joseff yn gofalu am yr Israeliaid. Ond wedyn, bu farw Joseff. Daeth Pharo arall yn frenin ar yr Aifft a doedd y Pharo hwnnw ddim yn hoffi’r Israeliaid o gwbl.

Gorfododd Pharo i’r Israeliaid fod yn gaethweision a phenododd ddynion creulon i fod yn feistri arnyn nhw. Roedd rhaid i’r Israeliaid weithio’n galed iawn i adeiladu dinasoedd i Pharo. Ond serch hynny, roedd nifer yr Israeliaid yn dal i dyfu. Roedd yr Eifftiaid yn dechrau poeni y byddai’r Israeliaid yn mynd yn rhy niferus ac yn rhy bwerus yn y wlad.

Wyt ti’n gwybod beth wnaeth Pharo? Siaradodd Pharo â’r bydwragedd a oedd yn helpu gwragedd yr Israeliaid i roi genedigaeth. Dywedodd wrthyn nhw: ‘Rhaid ichi ladd pob bachgen sy’n cael ei eni.’ Ond roedd y bydwragedd yn gyfiawn ac ni fydden nhw byth yn lladd babanod.

Felly, gorchmynnodd Pharo i’r bobl: ‘Cymerwch bob bachgen sy’n cael ei eni i’r Israeliaid a lladdwch ef. Ond fe gewch chi adael i’r genethod fyw.’ Am beth ofnadwy i’w wneud! Gad inni weld sut cafodd un bachgen bach ei achub.

Exodus 1:6-22.