STORI 28
Babi yn Cael ei Achub
WELI di’r babi bach yn crio ac yn dal yn dynn ym mys y ferch? Moses yw hwn. Wyt ti’n gwybod pwy yw’r ferch dlos? Tywysoges yw hi, merch Pharo ei hun.
Llwyddodd mam Moses i guddio ei baban am dri mis fel na fyddai’n cael ei ladd gan yr Eifftiaid. Ond roedd hi’n poeni y byddai rhywun yn dod o hyd iddo. Felly dyma hi’n penderfynu ei achub.
Cymerodd fasged wedi ei gwneud o frwyn a’i gorchuddio â thar fel na fyddai’n gollwng dŵr. Yna, fe roddodd Moses yn y fasged a’i rhoi yng nghanol yr hesg ar lan afon Neil. Arhosodd Miriam, chwaer Moses, er mwyn gweld beth fyddai’n digwydd.
Yn fuan wedyn, daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon. Yn sydyn, dyma hi’n gweld y fasged yng nghanol yr hesg. Dywedodd wrth un o’i morynion: ‘Dos i nôl y fasged honno i mi.’ Pan agorodd y dywysoges y fasged, gwelodd fod baban hardd ynddi! Roedd Moses druan yn crio, a theimlodd y dywysoges drosto. Doedd hi ddim eisiau iddo gael ei ladd.
Aeth Miriam ati a gofyn: ‘Ga’ i fynd i nôl un o ferched yr Israeliaid i fagu’r plentyn i chi?’
‘Cei, gwna hynny,’ meddai’r dywysoges.
Rhedodd Miriam adref i ddweud wrth ei mam. Pan aeth mam Moses i weld y dywysoges, dywedodd y dywysoges: ‘Cymera’r plentyn hwn a’i fagu imi, ac fe wna i dalu iti.’
Felly, roedd mam Moses yn medru gofalu am ei mab. Yn ddiweddarach, pan oedd Moses yn hŷn, fe aeth ei fam ag ef at y dywysoges a dyma hithau’n ei fabwysiadu. A dyna sut y cafodd Moses ei fagu fel mab i’r dywysoges, yn un o deulu Pharo.
Exodus 2:1-10.