Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 29

Moses yn Ffoi

Moses yn Ffoi

EDRYCHA ar Moses yn ffoi o’r Aifft. Weli di’r dynion yn rhedeg ar ei ôl? Wyt ti’n gwybod pam maen nhw yn ceisio lladd Moses? Gad inni weld.

Cafodd Moses ei fagu yn nhŷ Pharo, brenin yr Aifft. Tyfodd yn ddyn pwysig a doeth. Er iddo gael ei fagu fel Eifftiwr, roedd Moses yn gwybod nad Eifftiwr mohono a bod ei rieni naturiol yn Israeliaid ac yn gaethweision.

Un diwrnod, pan oedd Moses yn 40 mlwydd oed, penderfynodd fynd i weld sut roedd ei bobl yn dod yn eu blaenau. Roedden nhw’n cael eu trin yn ofnadwy. Gwelodd Moses un o’r Eifftiaid yn curo Israeliad yn ddidrugaredd. Edrychodd o’i gwmpas i sicrhau nad oedd neb yn ei wylio ac yna fe drawodd yr Eifftiwr a’i ladd. Cuddiodd y corff yn y tywod.

Drannoeth, aeth Moses allan eto i weld ei bobl. Roedd yn gobeithio y byddai’n medru eu hachub o’u caethiwed. Ond fe welodd ddau o’i bobl ei hun yn ymladd. Felly dywedodd wrth yr un a oedd ar fai: ‘Pam wyt ti’n taro dy frawd?’

‘Pwy wnaeth dy benodi di i fod yn feistr ac yn farnwr arnon ni?’ meddai’r dyn yn frathog. ‘A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist ti’r Eifftiwr hwnnw?’

Pan sylweddolodd Moses fod pobl yn gwybod am yr hyn a wnaeth, cododd ofn arno. Pan glywodd Pharo am y peth, anfonodd ei filwyr i ladd Moses. Dyna pam roedd yn rhaid i Moses ffoi am ei fywyd.

Ar ôl iddo adael yr Aifft, aeth Moses i fyw i wlad bell o’r enw Midian. Yno, daeth i adnabod teulu Jethro, ac fe briododd Seffora, un o ferched Jethro. Aeth Moses i weithio i Jethro fel bugail. Roedd Moses yn byw yng ngwlad Midian am ddeugain mlynedd. Erbyn hynny, roedd yn 80 mlwydd oed. Yna, un diwrnod, tra oedd yn gofalu am ddefaid Jethro, digwyddodd rywbeth rhyfedd a fyddai’n newid bywyd Moses am byth. Dros y dudalen, byddwn ni’n gweld beth ddigwyddodd.

Exodus 2:11-25; Actau 7:22-29.