Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 31

Gerbron Pharo

Gerbron Pharo

ERBYN i Moses ddychwelyd i’r Aifft, roedd wedi sôn wrth Aaron ei frawd am y gwyrthiau. Pan welodd yr Israeliaid y gwyrthiau, roedden nhw i gyd yn credu bod Jehofa gyda nhw.

Aeth Moses ac Aaron i weld Pharo a dweud wrtho: ‘Mae Jehofa, Duw Israel, yn dweud, “Gad i’m pobl fynd am dri diwrnod, er mwyn iddyn nhw f’addoli i yn yr anialwch.”’ Ond atebodd Pharo: ‘Dydw i ddim yn credu yn Jehofa. Wna i ddim gadael i Israel fynd.’

Roedd Pharo’n flin am fod y bobl eisiau cymryd amser o’u gwaith i addoli Jehofa. Gwnaeth iddyn nhw weithio’n galetach fyth. Roedd Moses yn ddigalon oherwydd bod yr Israeliaid yn rhoi’r bai arno ef am wneud y sefyllfa’n waeth. Ond dywedodd Jehofa wrtho am beidio â phoeni. ‘Bydd rhaid i Pharo adael i’m pobl fynd,’ meddai Jehofa.

Aeth Moses ac Aaron yn ôl at Pharo. Y tro hwn, fe wnaethon nhw gyflawni gwyrth. Taflodd Aaron ei ffon ar y llawr a dyma hi’n troi’n neidr anferth. Ond taflodd dynion doeth Pharo eu ffyn hwythau ar y llawr ac fe wnaeth y rheini droi’n nadroedd hefyd. Ond edrycha ar beth sy’n digwydd! Mae neidr Aaron yn llyncu nadroedd y dynion doeth. Ond, unwaith eto, gwrthod gadael i Israel fynd a wnaeth Pharo.

Daeth hi’n amser i Jehofa ddysgu gwers i Pharo. Wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd? Anfonodd ddeg pla ar yr Aifft.

Ar ôl rhai o’r plâu, roedd Pharo yn anfon am Moses ac yn dweud wrtho: ‘Os gwnei di atal y pla, bydda’ i’n gadael i bobl Israel fynd.’ Ond wedyn, pan fyddai’r pla’n peidio, byddai Pharo’n newid ei feddwl a gwrthod unwaith eto. Ond ar ôl y degfed pla, dywedodd Pharo wrth yr Israeliaid y byddan nhw’n cael mynd.

Fedri di enwi’r deg pla? Tro’r dudalen a byddwn ni’n dysgu mwy amdanyn nhw.

Exodus 4:27-31; 5:1-23; 6:1-13, 26-30; 7:1-13.