Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 33

Croesi’r Môr Coch

Croesi’r Môr Coch

EDRYCHA ar beth sy’n digwydd yma. Mae Moses yn estyn ei ffon dros y Môr Coch. Ar yr ochr yma, mae’r Israeliaid yn ddiogel. Ond mae Pharo a’i fyddin yn boddi yn y môr. Gad inni weld sut y digwyddodd hyn i gyd.

Fel rydyn ni eisoes wedi dysgu, gorchmynnodd Pharo i’r Israeliaid adael yr Aifft ar ôl i Jehofa anfon y degfed pla. Fe wnaeth tua 600,000 o ddynion Israel adael y wlad, ynghyd â’u gwragedd a’u plant. Hefyd, aeth nifer fawr o bobl eraill a oedd wedi rhoi eu ffydd yn Jehofa gyda’r Israeliaid. Aeth pawb â’u defaid, eu geifr, a’u gwartheg gyda nhw.

Cyn i’r Israeliaid adael, gofynnon nhw i’r Eifftiaid am ddillad ac am aur ac arian. Ar ôl y pla olaf, roedd ofn mawr ar yr Eifftiaid. Roedden nhw’n barod i roi unrhyw beth yr oedd yr Israeliaid yn gofyn amdano.

Ymhen ychydig o ddyddiau, cyrhaeddodd yr Israeliaid y Môr Coch ac yno, fe arhoson nhw i orffwys. Yn y cyfamser, roedd Pharo a’i filwyr yn difaru eu bod nhw wedi gadael i’r Israeliaid fynd. ‘Rydyn ni wedi gadael i’n caethweision fynd yn rhydd!’ medden nhw.

Felly, unwaith eto, fe newidiodd Pharo ei feddwl. Dywedodd wrth ei filwyr am baratoi 600 o gerbydau rhyfel arbennig. Gyda byddin enfawr a holl gerbydau’r wlad, fe ruthrodd Pharo ar ôl yr Israeliaid.

Pan welodd yr Israeliaid fod Pharo a’i fyddin yn dod ar eu holau, daeth ofn mawr arnyn nhw. Doedd dim dihangfa! Roedd y Môr Coch ar un ochr iddyn nhw a’r Eifftiaid ar yr ochr arall. Gosododd Jehofa gwmwl rhwng ei bobl a’r Eifftiaid, fel nad oedd yr Eifftiaid yn medru gweld yr Israeliaid nac ymosod arnyn nhw.

Dywedodd Jehofa wrth Moses am estyn ei ffon dros y Môr Coch. Yna, fe achosodd Jehofa i wynt cryf o’r dwyrain godi. Chwythodd y gwynt nes i’r dyfroedd ymrannu a ffurfio waliau o ddŵr ar y ddwy ochr.

Dechreuodd yr Israeliaid gerdded ar hyd y tir sych a oedd wedi ymddangos ar wely’r môr. Cymerodd oriau i’r miliynau o bobl a’u hanifeiliaid groesi’n ddiogel a chyrraedd yr ochr arall. Erbyn hynny, roedd yr Eifftiaid yn medru gweld yr Israeliaid unwaith eto. Roedd eu caethweision yn dianc! Brysiodd Pharo a’i fyddin ar eu holau rhwng y waliau o ddŵr.

Gyrron nhw ar wib ar hyd gwely’r môr ond achosodd Duw i olwynion eu cerbydau ddod yn rhydd. Wedi eu dychryn drwyddyn nhw, dyma’r Eifftiaid yn dechrau sgrechian: ‘Mae Jehofa yn ymladd dros bobl Israel ac yn ein herbyn ni. Mae’n rhaid inni ddianc!’ Ond roedd hi’n rhy hwyr.

Dyna pryd y dywedodd Jehofa wrth Moses am estyn ei ffon dros y Môr Coch, fel y gweli di yn y llun. Ac wrth iddo wneud hynny, fe syrthiodd y dŵr a boddi’r Eifftiaid a’u cerbydau. Roedd yr holl fyddin wedi dilyn Pharo i ganol y môr ond ni ddaeth yr un ohonyn nhw o’r dyfroedd yn fyw!

Ar ôl iddyn nhw gael eu hachub, roedd pobl Dduw wrth eu boddau! Canodd y dynion gân o ddiolch i Jehofa, gan ddweud: ‘Mae Jehofa wedi ennill buddugoliaeth. Y mae wedi taflu’r ceffylau a’u marchogion i’r môr.’ Fe wnaeth Miriam, chwaer Moses, godi ei thambwrîn ac fe wnaeth y merched eraill eu dilyn hi gyda’u tambwrinau hwythau. Roedden nhw’n dawnsio ac yn canu yr un gân â’r dynion: ‘Mae Jehofa wedi ennill buddugoliaeth. Y mae wedi taflu’r ceffylau a’u marchogion i’r môr.’

Exodus penodau 12 i 15.