RHAN 3
O’r Waredigaeth o’r Aifft hyd at Frenin Cyntaf Israel
Arweiniodd Moses yr Israeliaid allan o’u caethiwed yn yr Aifft hyd at Fynydd Sinai, ac yno y rhoddodd Duw gyfreithiau iddyn nhw. Yn nes ymlaen, anfonodd Moses 12 ysbïwr i weld sut fath o wlad oedd Canaan. Ond daeth 10 ohonyn nhw yn eu holau gydag adroddiad gwael. Roedd pobl Israel am droi’n ôl i’r Aifft. Yn gosb am eu diffyg ffydd, roedden nhw’n gorfod crwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd.
Yn y diwedd, cafodd Josua ei ddewis i arwain y bobl i mewn i wlad Canaan. I’w helpu nhw i feddiannu’r wlad, fe wnaeth Jehofa nifer o wyrthiau. Achosodd i ddyfroedd yr Iorddonen beidio â llifo. Fe wnaeth i furiau Jericho syrthio, ac i’r haul sefyll yn stond am ddiwrnod cyfan. Ymhen chwe blynedd, roedden nhw wedi cipio’r wlad oddi ar bobl Canaan.
Am 356 o flynyddoedd, roedd barnwyr yn rheoli’r wlad. Josua oedd yr un cyntaf ond byddwn ni hefyd yn dysgu am Barac, Gideon, Jefftha, Samson, a Samuel. Byddwn ni’n darllen am wragedd fel Rahab, Debora, Jael, Ruth, Naomi, a Delila. Mae RHAN 3 yn adrodd hanes 396 o flynyddoedd.
YN Y RHAN HON
STORI 35
Jehofa yn Rhoi’r Gyfraith
Mae ddwy gyfraith yn pwysicach na’r Deg Gorchymyn i gyd, ond pa rhai?
STORI 38
Y Deuddeg Ysbïwr
Mae deg o’r ysbïwyr yn dweud un peth, ond mae’r ddau arall yn dweud rhywbeth gwahanol. Pwy ydy’r Israeliaid yn credu?
STORI 44
Rahab yn Cuddio’r Ysbïwyr
Sut ydy Rahab yn helpu’r ddau ddyn a pha cymwynas ydy hi’n gofyn?
STORI 48
Trigolion Doeth Gibeon
Maen nhw’n twyllo Josua a’r Israeliaid i wneud addewid, ond mae’r Israeliaid yn cadw eu haddewid.
STORI 49
Achub Pobl Gibeon
Mae Jehofa yn wneud rhywbeth ar gyfer Josua sydd erioed wedi cael ei ailadrodd.
STORI 50
Dwy Ddynes Ddewr
Mae Barac yn arwain byddin Israel i ryfel, ond pam ydy Jael yn haeddu clod?
STORI 52
Gideon a’i Fyddin Fechan
Dewisiodd Duw y milwyr ar gyfer y fyddin fechan yma trwy brawf anarferol iawn.
STORI 55
Samuel yn Was i Dduw
Mae Duw yn defnyddio Samuel ifanc i anfon neges cryf at archoffeiriad Eli.