Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 38

Y Deuddeg Ysbïwr

Y Deuddeg Ysbïwr

EDRYCHA ar y ffrwythau mae’r dynion hyn yn eu cario. Wyt ti erioed wedi gweld clwstwr mor fawr o rawnwin? Roedd angen dau ddyn i’w gario ar drosol. Mae ganddyn nhw ffigys a phomgranadau hefyd. Lle cawson nhw’r ffrwythau hyn i gyd? Yng ngwlad Canaan. Cofia, dyna lle roedd Abraham, Isaac, a Jacob yn byw. Ond oherwydd y newyn yno, symudodd Jacob a’i deulu i’r Aifft. Ond ryw 216 o flynyddoedd wedyn, o dan arweiniad Moses, aeth yr Israeliaid yn ôl i Ganaan. Cyrhaeddon nhw le o’r enw Cades, yn yr anialwch.

Pobl ddrwg oedd yn byw yng ngwlad Canaan. Felly, anfonodd Moses ddeuddeg o ddynion i ysbïo’r wlad. Dywedodd wrthyn nhw: ‘Ewch i weld faint o bobl sy’n byw yno, a pha mor gryf ydyn nhw. Edrychwch i weld a yw’r tir yn dda ar gyfer tyfu cnydau. A chofiwch ddod ag ychydig o’r ffrwythau’n ôl.’

Pan ddychwelodd yr ysbïwyr, fe ddangoson nhw’r ffrwythau i Moses a dweud wrtho: ‘Mae’r wlad yn hyfryd dros ben.’ Ond dywedodd deg o’r ysbïwyr: ‘Mae’r bobl sy’n byw yno’n fawr ac yn gryf. Byddwn ni’n siŵr o gael ein lladd os ydyn ni’n ceisio meddiannu’r wlad.’

Pan glywodd y bobl hyn, roedd ofn mawr arnyn nhw. ‘Byddai’n well petaswn ni wedi marw yn yr Aifft neu yma yn yr anialwch,’ medden nhw. ‘Bydd pobl Canaan yn ein lladd ni ac yn cipio ein gwragedd a’n plant. Gwell fyddai dewis rhywun arall i’n harwain yn lle Moses, a mynd yn ôl i’r Aifft!’

Ond roedd dau o’r ysbïwyr, Caleb a Josua, yn ymddiried yn Jehofa. Fe geision nhw dawelu’r bobl. ‘Peidiwch ag ofni,’ medden nhw. ‘Mae Jehofa gyda ni. Fe fydd hi’n hawdd inni feddiannu’r wlad.’ Ond wnaeth y bobl ddim gwrando. Roedden nhw am ladd Caleb a Josua.

Roedd hyn yn gwylltio Jehofa, ac fe ddywedodd wrth Moses: ‘Fydd neb sydd dros ugain mlwydd oed yn cyrraedd gwlad Canaan. Maen nhw wedi gweld y gwyrthiau a gyflawnais yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond eto dydyn nhw ddim yn ymddiried ynof fi. Bydd rhaid iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd, nes i’r un olaf farw. Dim ond Caleb a Josua fydd yn cael mynd i mewn i wlad Canaan.’

Numeri 13:1-33; 14:1-38.