Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 41

Y Sarff Bres

Y Sarff Bres

AI NEIDR go iawn yw honno ar y polyn? Nage, un wedi ei gwneud o bres ydyw. Dywedodd Jehofa wrth Moses y dylai osod y neidr ar y polyn er mwyn i’r bobl fedru edrych arni a byw. Ond nadroedd go iawn yw’r rheini ar y ddaear. Maen nhw wedi brathu’r bobl a’u gwneud nhw’n sâl. Wyt ti’n gwybod pam?

Wel, roedd yr Israeliaid wedi grwgnach yn erbyn Duw a Moses. ‘Pam y daethoch chi â ni allan o’r Aifft i farw yn yr anialwch,’ cwynon nhw. ‘Does dim bwyd na dŵr yn y lle diflas hwn. Ac rydyn ni wedi hen syrffedu ar fwyta manna trwy’r amser.’

Roedd y manna a’r dŵr yn wyrthiau oddi wrth Jehofa. Ond doedd y bobl ddim yn ddiolchgar. Felly anfonodd Jehofa nadroedd gwenwynig i gosbi’r Israeliaid. Brathodd y nadroedd y bobl a bu farw llawer iawn ohonyn nhw.

Yn y diwedd, aeth y bobl at Moses a dweud: ‘Rydyn ni wedi pechu trwy siarad yn erbyn Jehofa ac yn dy erbyn di. Gweddïa ar Jehofa a gofyn iddo am gael gwared ar y nadroedd.’

A dyna a wnaeth Moses. Dywedodd Jehofa wrtho am wneud y sarff bres a’i chodi ar bolyn fel y byddai’r rhai oedd wedi eu brathu yn gallu edrych arni. Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd Jehofa wedi dweud. A phan oedd y bobl a gafodd eu brathu yn edrych ar y sarff, bydden nhw’n cael eu gwella.

Mae gwers inni yn y stori hon. Rydyn ni i gyd yn debyg i’r Israeliaid a gafodd eu brathu gan y nadroedd. Efallai dy fod ti wedi sylwi bod pobl yn mynd yn hen ac yn sâl ac yn marw weithiau. Mae hyn yn digwydd oherwydd ein bod ni’n ddisgynyddion i Adda ac Efa. Fe wnaethon nhw droi eu cefnau ar Jehofa. Ond mae Jehofa wedi paratoi’r ffordd inni gael byw am byth.

Anfonodd Jehofa ei Fab, Iesu Grist, i’r ddaear. Roedd rhai pobl yn meddwl bod Iesu’n ddyn drwg, ac fe wnaethon nhw ei roi ar bolyn neu stanc i farw. Ond roedd Jehofa wedi anfon Iesu Grist i’n hachub ni. Os ydyn ni’n troi at Iesu ac yn ei ddilyn, fe fyddwn ni’n cael byw am byth. Cawn ddysgu mwy am hyn yn nes ymlaen.

Numeri 21:4-9; Ioan 3:14, 15.