Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 42

Asen Sy’n Siarad

Asen Sy’n Siarad

A WYT ti erioed wedi clywed am asen yn siarad? Dydy anifeiliaid ddim yn medru siarad, nac ydyn? Ond mae’r Beibl yn sôn am un asen a oedd yn siarad. Gad inni ddarllen yr hanes.

Roedd yr Israeliaid ar fin mynd i mewn i wlad Canaan. Roedd Balac, brenin Moab, yn ofni’r Israeliaid. Felly, anfonodd am ddyn craff o’r enw Balaam a gofyn iddo felltithio’r Israeliaid. Addawodd Balac bres mawr i Balaam, ac felly, rhoddodd Balaam gyfrwy ar ei asen a chychwyn ar y daith i ymweld â Balac.

Doedd Jehofa ddim eisiau i Balaam felltithio pobl Israel. Felly, anfonodd angel â chleddyf yn ei law i sefyll yn y ffordd er mwyn rhwystro Balaam rhag pasio. Nid oedd Balaam yn gweld yr angel, ond roedd yr asen yn ei weld. Ceisiodd Balaam yrru’r asen yn ei blaen ond gwrthod a wnâi bob tro. Yn y diwedd, dyma hi’n gorwedd i lawr ar y ffordd. Gwylltiodd Balaam a churo’r asen â’i ffon.

Yna, achosodd Jehofa i’r asen siarad â Balaam. ‘Pam rwyt ti yn fy nghuro i?’ holodd yr asen. ‘Beth rydw i erioed wedi ei wneud i ti?’

‘Rwyt ti wedi gwneud ffŵl ohono i,’ meddai Balaam. ‘Petasai gen i gleddyf, fe fyddwn i’n dy ladd di!’

‘A ydw i erioed wedi bod yn anufudd iti o’r blaen?’ gofynnodd yr asen.

‘Naddo,’ atebodd Balaam.

Yna, agorodd Jehofa lygaid Balaam ac fe welodd yr angel yn sefyll yn y ffordd a’r cleddyf yn ei law. Dywedodd yr angel: ‘Pam gwnest ti daro dy asen? Rydw i wedi dod i’th rwystro di rhag iti fynd yn dy flaen, achos peth drwg fyddai melltithio Israel. Pe na byddai dy asen wedi stopio yn y ffordd, byddwn i wedi dy ladd di, ond fyddwn i ddim wedi niweidio dy asen.’

Dywedodd Balaam: ‘Rydw i wedi pechu. Doeddwn i ddim yn gwybod dy fod ti’n sefyll yn y ffordd.’ Gadawodd yr angel i Balaam basio a mynd yn ei flaen i weld Balac. Ceisiodd Balaam felltithio Israel, ond yn lle hynny, achosodd Jehofa iddo fendithio Israel deirgwaith.

Numeri 21:21-35; 22:1-40; 23:1-30; 24:1-25.