Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 46

Muriau Jericho

Muriau Jericho

PAM mae muriau Jericho yn syrthio? Mae’n edrych fel petai bom mawr wedi ffrwydro. Ond yn y dyddiau hynny, doedd dim bomiau yn bod. Gwyrth arall gan Jehofa oedd ar waith. Gad inni ddysgu mwy.

Dywedodd Jehofa wrth Josua: ‘Rhaid i ti a’r fyddin orymdeithio o amgylch y ddinas. Gwnewch yr un peth unwaith y dydd am chwe diwrnod. Dylai’r offeiriaid sy’n cludo arch y cyfamod arwain yr orymdaith, a dylai saith offeiriad gerdded o flaen yr arch, gan seinio eu hutgyrn.

‘Ar y seithfed dydd, dylech chi gerdded o amgylch y ddinas saith gwaith. Yna, rhaid i’r offeiriaid seinio caniad hir ar yr utgyrn a dylai pawb floeddio nerth eu pennau. A bydd muriau’r ddinas yn syrthio i’r llawr!’

Gwnaeth Josua a’r bobl yn union fel y gorchmynnodd Jehofa. Cerddodd y milwyr o amgylch y ddinas yn dawel. Doedd neb yn dweud gair. Yr unig sŵn i’w glywed oedd trampio traed y milwyr a sŵn iasol yr utgyrn. Mae’n siŵr y byddai gelynion pobl Dduw yn Jericho wedi dychryn yn llwyr. Weli di’r edau goch yn hongian o’r ffenestr? Ffenestr pwy yw honno? Ie, roedd Rahab wedi gwneud yn union fel roedd yr ysbïwyr wedi dweud wrthi. Roedd ei theulu i gyd yn y tŷ gyda hi, yn gwylio.

Ar y seithfed dydd, aeth yr orymdaith o amgylch y ddinas saith gwaith. Ar y seithfed tro, seiniodd yr utgyrn, bloeddiodd y milwyr nerth eu pennau, a syrthiodd y muriau i’r llawr. Yna gorchmynnodd Josua: ‘Lladdwch bawb yn y ddinas a llosgwch Jericho. Llosgwch bopeth. Ond cadwch yr arian, yr aur, y pres a’r haearn, a’u rhoi yn nhrysorfa pabell Jehofa.’

Dywedodd Josua wrth yr ysbïwyr: ‘Ewch i dŷ Rahab a dewch â hi a’i theulu allan.’ Cafodd Rahab a’i theulu eu hachub, yn union fel yr oedd yr ysbïwyr wedi addo.