Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 47

Lleidr yn Israel

Lleidr yn Israel

EDRYCHA ar beth mae’r dyn yn ei gladdu yn ei babell. Mae ganddo fantell hardd, darn mawr o aur, a darnau o arian. Mae wedi eu dwyn o ddinas Jericho. Ond beth ddylai’r dyn fod wedi ei wneud gyda’r pethau o Jericho? Wyt ti’n cofio?

Dylai’r pethau hyn fod wedi cael eu dinistrio, a’r aur a’r arian wedi eu rhoi i’r drysorfa yn nhabernacl Jehofa. Ond mae’r bobl hyn wedi bod yn anufudd. Maen nhw wedi dwyn pethau a oedd yn perthyn i Dduw. Enw’r dyn yw Achan, ac mae’r lleill yn aelodau o’i deulu. Gad inni weld beth ddigwyddodd.

Ar ôl i Achan ddwyn y pethau hyn, anfonodd Josua rai o’i filwyr i ymladd yn erbyn dinas Ai. Ond colli’r frwydr a wnaethon nhw. Cafodd rhai eu lladd a rhedodd y gweddill i ffwrdd. Roedd Josua’n drist iawn. Yn syrthio i’r llawr, gofynnodd i Jehofa: ‘Pam rwyt ti wedi gadael i hyn ddigwydd inni?’

Atebodd Jehofa: ‘Cod! Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi cymryd pethau y dylen nhw fod wedi eu dinistrio neu eu rhoi i’r tabernacl. Maen nhw wedi dwyn mantell hardd a’i chuddio. Fydda i ddim yn eich bendithio chi, nes eich bod chi’n dinistrio’r fantell, a difa’r un a gymerodd y pethau hyn.’ Dywedodd Jehofa y byddai’n dangos i Josua pwy yn union oedd y dyn drwg.

Felly, casglodd Josua’r holl bobl ynghyd ac, o’u plith, dewisodd Jehofa y dyn drwg Achan. Dywedodd Achan: ‘Rwyf wedi pechu. Gwelais fantell hardd, darn o aur a darnau o arian. Roeddwn yn eu chwenychu gymaint nes imi eu cymryd nhw. Maen nhw wedi eu claddu yn fy mhabell.’

Ar ôl cael hyd i’r pethau a’u rhoi i Josua, fe ddywedodd wrth Achan: ‘Pam gwnest ti ddod â’r fath helynt arnon ni? Nawr, bydd Jehofa yn dod â helynt mawr arnat ti!’ Ar hynny, taflodd y bobl gerrig at Achan a’i deulu a’u lladd. Onid yw hynny yn dangos na ddylen ni byth gymryd pethau nad ydyn nhw’n perthyn inni?

Wedi hynny, aeth Israel i ymladd yn erbyn Ai unwaith eto. Y tro hwn, gyda help Jehofa, enillon nhw’r frwydr.