Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 50

Dwy Ddynes Ddewr

Dwy Ddynes Ddewr

BOB tro y byddai’r Israeliaid yn mynd i helynt, bydden nhw’n troi at Jehofa a byddai ef yn anfon arweinwyr dewr i’w helpu. Mae’r Beibl yn galw’r arweinwyr hynny yn farnwyr. Josua oedd yr un cyntaf. Ymhlith y barnwyr eraill oedd Othniel, Ehud, a Samgar. Ond roedd dwy ddynes hefyd yn helpu Israel. Eu henwau nhw oedd Debora a Jael.

Proffwydes oedd Debora. Byddai Jehofa yn rhoi gwybodaeth iddi am y dyfodol, ac fe fyddai hi’n cyfleu’r wybodaeth honno i’r bobl. Roedd Debora hefyd yn barnu Israel. Byddai hi’n eistedd o dan balmwydden yn y bryniau ac fe fyddai pobl yn dod ati i gael cyngor.

Enw brenin Canaan ar y pryd oedd Jabin. Roedd ganddo 900 o gerbydau rhyfel. Roedd ei fyddin yn gryf iawn ac roedd llawer o’r Israeliaid wedi gorfod mynd yn weision i Jabin. Cadfridog byddin Jabin oedd dyn o’r enw Sisera.

Un diwrnod, anfonodd Debora am Barac a dweud wrtho: ‘Mae Jehofa yn gorchymyn: “Dos â deng mil o ddynion i fynydd Tabor. Byddaf yn dod â Sisera atat ti. A byddaf yn rhoi’r fuddugoliaeth iti.”’

Dywedodd Barac wrth Debora: ‘Mi af os doi di gyda mi.’ Cytunodd Debora i fynd ond dywedodd wrth Barac: ‘Fyddi di ddim yn cael y clod am y fuddugoliaeth, oherwydd i law gwraig y bydd Jehofa yn rhoi Sisera.’ A dyna beth a ddigwyddodd.

Aeth Barac a’i ddynion i lawr o fynydd Tabor i wynebu byddin Sisera. Yn sydyn, achosodd Jehofa lifogydd a chafodd llawer o filwyr y gelyn eu boddi. Ond neidiodd Sisera allan o’i gerbyd a rhedeg i ffwrdd.

Ymhen tipyn, dyma Sisera yn cyrraedd pabell Jael. Gofynnodd Jael iddo fynd i mewn i’r babell a rhoddodd ddiod o laeth iddo. Gwnaeth hyn iddo deimlo’n gysglyd a chyn bo hir roedd yn cysgu’n drwm. Yna, defnyddiodd Jael forthwyl i daro peg pabell drwy ochr pen Sisera a’i ladd. Yn nes ymlaen, pan ddaeth Barac heibio, dangosodd Jael gorff Sisera iddo. Roedd geiriau Debora wedi dod yn wir.

Yn y diwedd, cafodd y brenin Jabin hefyd ei ladd ac fe gafodd yr Israeliaid lonydd eto am gyfnod.