Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 51

Ruth a Naomi

Ruth a Naomi

YN Y Beibl y mae llyfr o’r enw Ruth. Mae’n adrodd hanes teulu oedd yn byw pan oedd y barnwyr yn llywodraethu yn Israel. Merch o wlad Moab oedd Ruth; doedd hi ddim yn perthyn i genedl Israel. Ond pan glywodd Ruth am y gwir Dduw Jehofa, fe ddaeth hi i’w garu o’i chalon. Gwraig hŷn oedd Naomi a helpodd Ruth i ddysgu am Jehofa.

Israeliad oedd Naomi. Roedd ganddi hi a’i gŵr ddau fab. Ond oherwydd newyn yn Israel, fe symudodd y teulu i wlad Moab. Yna, un diwrnod, bu farw gŵr Naomi. Fe wnaeth y meibion briodi Ruth ac Orpa, dwy ferch o wlad Moab. Ymhen rhyw ddeng mlynedd, bu farw dau fab Naomi. Roedd Naomi a’r ddwy ferch yn drist iawn. Beth fyddai Naomi yn ei wneud nawr?

Penderfynodd Naomi y byddai’n teithio’r holl ffordd yn ôl i’w gwlad ei hun a’i phobl ei hun. Roedd Ruth ac Orpa eisiau aros gyda Naomi, felly, fe aethon nhw hefyd yn gwmni iddi. Ond ar ôl iddyn nhw deithio am ychydig, trodd Naomi at y merched a dweud: ‘Ewch yn ôl adref at eich mamau.’

Cusanodd Naomi’r ddwy ferch a ffarwelio â nhw. Dechreuon nhw grio oherwydd eu bod yn ei charu hi’n fawr. ‘Na!’ meddan nhw. ‘Awn ni gyda thi at dy bobl di.’ Ond atebodd Naomi: ‘Ewch adref, fy merched. Well ichi fynd yn ôl i’ch gwlad eich hun.’ Felly, ffarweliodd Orpa a chychwyn ar ei ffordd adref. Ond aros a wnaeth Ruth.

Trodd Naomi ati a dweud: ‘Mae Orpa wedi mynd. Rhaid iti fynd adref gyda hi.’ Ond atebodd Ruth: ‘Paid â gwneud imi dy adael di. Gad imi ddod gyda thi. Ble bynnag yr ei di, mi af innau, a ble bynnag y byddi di’n byw, dyna lle y byddaf i’n byw. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a bydd dy Dduw di yn Dduw i mi. Ble bynnag y byddi di’n marw, dyna lle y byddaf i’n marw ac yn cael fy nghladdu.’ Pan glywodd Naomi hynny, wnaeth hi ddim pwyso arni eto i fynd adref.

Cyrhaeddodd y ddwy wraig wlad Israel ac ymgartrefu yno. Aeth Ruth yn syth i weithio yn y caeau, oherwydd ei bod hi’n amser cynaeafu’r haidd. Fe wnaeth dyn o’r enw Boas adael iddi gasglu haidd ar ei dir. Wyt ti’n gwybod pwy oedd mam Boas? Rahab, o ddinas Jericho.

Un diwrnod, dywedodd Boas wrth Ruth: ‘Rydw i wedi clywed amdanat ti ac am dy garedigrwydd tuag at Naomi. Rydw i’n gwybod dy fod ti wedi gadael dy dad a’th fam, a’th gartref, ac wedi dod i fyw i wlad lle nad wyt ti’n adnabod neb. Bydd Jehofa yn siŵr o edrych ar dy ôl!’

Atebodd Ruth: ‘Rwyt ti’n glên iawn syr. Mae dy eiriau caredig wedi codi fy nghalon.’ Roedd Boas yn hoffi Ruth yn fawr a chyn bo hir, fe briododd hi. Roedd Naomi ar ben ei digon! Ond roedd hi’n hapusach fyth pan gafodd Ruth a Boas fab a’i enwi’n Obed. Yn nes ymlaen, daeth Obed yn daid i Dafydd a byddwn ni’n dysgu llawer mwy amdano ef yn y man.

Llyfr Ruth 1-4.