Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 52

Gideon a’i Fyddin Fechan

Gideon a’i Fyddin Fechan

A WYT ti’n gweld beth sy’n digwydd yn y llun? Milwyr Israel sydd yma. Maen nhw wedi dod at y nant i dorri syched. Gideon yw’r dyn sy’n sefyll wrth eu hochr. Mae Gideon yn eu gwylio nhw’n ofalus i weld ym mha ffordd y maen nhw’n yfed y dŵr.

Wyt ti wedi sylwi nad yw’r dynion i gyd yn yfed yn yr un ffordd? Mae rhai yn mynd ar eu gliniau ac yn llepian y dŵr fel y mae ci yn ei wneud. Ond mae un dyn yn codi’r dŵr yn ei law ac yn dal i edrych o’i gwmpas. Mae hynny’n bwysig oherwydd bod Duw wedi dweud wrth Gideon am ddewis dim ond y dynion oedd yn yfed ac yn gwylio’r un pryd. Dywedodd Duw y dylai’r gweddill fynd adref. Gad inni weld pam.

Roedd yr Israeliaid mewn helynt unwaith eto. Doedden nhw ddim wedi bod yn ufudd i Jehofa. Roedd pobl Midian wedi bod yn ymosod arnyn nhw. Gofynnodd yr Israeliaid i Jehofa am help a gwrandawodd Jehofa arnyn nhw.

Dywedodd Jehofa wrth Gideon am godi byddin, a chasglodd 32,000 o filwyr at ei gilydd. Ond roedd 135,000 o filwyr gan y gelyn. Ond eto dywedodd Jehofa wrth Gideon: ‘Mae gen ti ormod o filwyr.’ Pam dywedodd Jehofa y fath beth?

Dywedodd Jehofa hynny oherwydd nad oedd yn dymuno i’r Israeliaid feddwl mai nhw oedd wedi ennill y fuddugoliaeth. Efallai bydden nhw’n credu nad oedd angen help Jehofa arnyn nhw. Felly, dywedodd Jehofa wrth Gideon: ‘Dywed wrth y dynion sy’n ofnus am fynd adref.’ Gwnaeth Gideon hynny, ac aeth 22,000 o’i filwyr adref. Doedd dim ond 10,000 ar ôl i wynebu 135,000 o filwyr y gelyn.

Ond doedd Jehofa ddim wedi gorffen. ‘Mae dy fyddin yn dal yn rhy fawr,’ meddai. Dywedodd wrth Gideon am ofyn i’r dynion yfed o ddŵr y nant, ac am anfon adref pob un a oedd yn mynd ar eu pennau gliniau i lepian y dŵr. Addawodd Jehofa: ‘Byddaf yn rhoi’r fuddugoliaeth i ti a’r 300 o ddynion a oedd yn gwylio tra oedden nhw’n yfed.’

Daeth hi’n amser i’r frwydr. Rhannodd Gideon y dynion yn dri grŵp. Rhoddodd utgorn i bob dyn ynghyd â ffagl wedi ei chuddio mewn piser gwag. Tua hanner nos, aethon nhw yn dawel bach i sefyll o gwmpas gwersyll y gelyn. Yna, dyma nhw i gyd yn chwythu ar yr utgyrn a dryllio’r piserau a gweiddi nerth eu pennau: ‘Cleddyf Jehofa a Gideon!’ Deffrôdd milwyr y gelyn mewn braw a rhedeg i ffwrdd. Roedd Israel wedi ennill y frwydr.