Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 55

Samuel yn Was i Dduw

Samuel yn Was i Dduw

A WYT ti’n gwybod pwy yw’r bachgen golygus hwn? Samuel yw ei enw. Y dyn sy’n rhoi ei law ar ben Samuel yw Eli, archoffeiriad Israel. Mae mam Samuel, Hanna, a’i dad Elcana, wedi dod â Samuel at Eli.

Mae’n debyg nad oedd Samuel yn llawer mwy na thair blwydd oed pan aeth i’r tabernacl i fyw gydag Eli a’r offeiriaid eraill. Pam anfonodd Elcana a Hanna eu mab i wasanaethu Jehofa yn y tabernacl ac yntau mor ifanc? Gad inni weld.

Ychydig o flynyddoedd cyn hynny, roedd Hanna yn torri ei chalon oherwydd doedd ganddi hi ddim plant. Roedd hi’n dyheu am gael babi. Felly, un diwrnod pan oedd hi’n ymweld â’r tabernacl, gweddïodd ar Jehofa a dweud: ‘O Jehofa, paid ag anghofio amdanaf! Os rhoddi di fab imi, rydw i’n addo ei roi i ti, er mwyn iddo dy wasanaethu di am weddill ei oes.’

Gwrandawodd Jehofa ar weddi Hanna, a rhai misoedd yn ddiweddarach, cafodd hi fabi a’i alw’n Samuel. Roedd Hanna yn caru ei bachgen bach. Roedd hi’n ei ddysgu am Jehofa o’r cychwyn cyntaf. Dywedodd wrth ei gŵr: ‘Pan fydd Samuel yn ddigon hen, af ag ef i Seilo er mwyn iddo wasanaethu Jehofa yn y tabernacl.’

Dyna beth mae Hanna ac Elcana yn ei wneud yn y llun. Oherwydd eu bod nhw wedi dysgu Samuel mor dda, roedd Samuel yn hapus i weithio ym mhabell Jehofa. Bob blwyddyn, byddai Hanna ac Elcana yn dod i addoli Jehofa yn y tabernacl, ac yn gweld Samuel yr un pryd. Byddai Hanna yn gwneud côt newydd iddo bob blwyddyn.

Aeth y blynyddoedd heibio ac roedd Samuel yn dal i wasanaethu Jehofa yn y tabernacl. Roedd Jehofa yn hapus gyda gwaith Samuel ac roedd y bobl yn ei hoffi. Ond roedd Hoffni a Phinees, meibion Eli yr archoffeiriad, yn ddynion drwg. Roedden nhw’n torri cyfreithiau Duw ac yn gwneud i bobl eraill fod yn anufudd i Jehofa. Dylai Eli fod wedi eu gwahardd nhw rhag bod yn offeiriaid, ond roedd yn rhy wan i wneud hynny.

Er gwaethaf y pethau drwg a oedd yn digwydd yn y tabernacl, daliodd Samuel ati i wasanaethu Jehofa. Ond oherwydd bod cyn lleied o bobl yn caru Jehofa, doedd neb wedi clywed llais Duw ers amser maith. Sut bynnag, pan oedd Samuel ychydig yn hŷn dyma beth ddigwyddodd:

Un noson, roedd Samuel yn cysgu yn y tabernacl pan glywodd lais yn galw. Atebodd Samuel: ‘Dyma fi.’ Cododd a rhedodd at Eli, gan ddweud: ‘Roeddet ti’n galw arna i a dyma fi.’

Ond dywedodd Eli: ‘Naddo, wnes i ddim galw arnat ti. Dos yn ôl i gysgu.’ Felly, fe aeth Samuel yn ôl i’w wely.

Yna, clywodd y llais am yr eildro yn galw ‘Samuel!’ Cododd Samuel eto a mynd yn ôl at Eli. ‘Fe wnest ti alw arna i a dyma fi!’ meddai. Atebodd Eli: ‘Naddo, fy mab. Wnes i ddim. Dos yn ôl i gysgu.’ Felly, aeth Samuel yn ôl i’w wely.

‘Samuel!’ galwodd y llais am y trydydd tro. Neidiodd Samuel ar ei draed a rhedeg at Eli. ‘Dyma fi Eli,’ meddai. ‘Mae’n rhaid dy fod ti wedi galw arna i.’ Erbyn hynny, roedd Eli’n gwybod mai Jehofa oedd yn galw ar Samuel. Felly fe ddywedodd: ‘Dos yn ôl i gysgu, ac os bydd y llais yn galw eto, rhaid iti ddweud: “Llefara, Jehofa, rwy’n gwrando.”’

Felly, dyna beth a wnaeth pan glywodd lais Jehofa yn galw arno eto. Eglurodd Jehofa wrtho ei fod yn mynd i gosbi Eli a’i feibion. Yn nes ymlaen, bu farw Hoffni a Phinees mewn brwydr yn erbyn y Philistiaid, a phan glywodd Eli’r newyddion, syrthiodd wysg ei gefn a thorri ei wddf a marw. Roedd gair Jehofa wedi dod yn wir.

Tyfodd Samuel yn ddyn, ac ef oedd barnwr olaf Israel. Pan aeth yn hen, gofynnodd y bobl iddo ddewis rhywun i fod yn frenin arnyn nhw. Nid oedd Samuel am wneud hynny, achos Jehofa oedd yn frenin arnyn nhw. Ond dywedodd Jehofa wrtho am wrando ar y bobl.