Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 57

Duw yn Dewis Dafydd

Duw yn Dewis Dafydd

A WYT ti’n gweld beth sydd wedi digwydd? Mae’r bachgen wedi achub yr oen bach. Roedd yr arth wedi cipio’r oen. Ond rhedodd y bachgen ar eu holau ac achub yr oen. Cododd yr arth i ymosod ar y bachgen, ond cydiodd y bachgen ynddi a’i lladd. Dro arall, achubodd un o’i ddefaid rhag llew mawr. Roedd yn ddewr iawn. Wyt ti’n gwybod beth oedd ei enw?

Dafydd oedd ei enw. Cafodd ei eni 10 mlynedd ar ôl i Jehofa ddewis Saul yn frenin. Roedd Dafydd yn fab i Jesse. Roedden nhw’n byw ym Methlehem ac roedd Dafydd yn edrych ar ôl defaid ei dad. Roedd ei daid, Obed, yn fab i Ruth a Boas.

Ymhen amser, dywedodd Jehofa wrth Samuel: ‘Cymer ychydig o’r olew arbennig a dos i dŷ Jesse ym Methlehem. Rydw i wedi dewis un o’i feibion ef i fod yn frenin.’ Pan welodd Samuel Eliab, mab hynaf Jesse, meddyliodd iddo’i hun: ‘Mae’n rhaid mai hwn yw’r un y mae Jehofa wedi’i ddewis.’ Roedd Eliab yn dal ac yn olygus, ond dywedodd Jehofa wrth Samuel: ‘Paid ag edrych ar ei wedd na’i daldra. Nid hwn yw’r un rydw i wedi ei ddewis yn frenin.’

Felly, dyma Jesse yn galw ei fab Abinadab a’i gyflwyno i Samuel. Ond dywedodd Samuel: ‘Na, nid hwn yw’r un y mae Jehofa wedi ei ddewis chwaith.’ Nesaf, dyma Jesse yn cyflwyno Samma. ‘Na, nid yw Jehofa wedi dewis hwn chwaith,’ meddai Samuel. Fesul un, cyflwynodd Jesse saith o’i feibion, ond wnaeth Jehofa ddim dewis yr un ohonyn nhw. ‘Ai dyma dy feibion i gyd?’ gofynnodd Samuel.

‘Y mae gen i fab arall, yr ieuengaf,’ meddai Jesse. ‘Ond y mae allan yn y caeau yn edrych ar ôl y defaid.’ Pan ddaeth Dafydd i mewn, gwelodd Samuel ei fod yn fachgen golygus. ‘Hwn yw’r un rydw i wedi ei ddewis,’ meddai Jehofa. ‘Eneinia ef.’ Felly cymerodd Samuel yr olew a’i dywallt ar ben Dafydd. Yn y dyfodol, Dafydd fyddai’r brenin nesaf ar Israel.