Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 58

Dafydd a Goliath

Dafydd a Goliath

UNWAITH eto, daeth y Philistiaid i ryfela yn erbyn Israel. Roedd tri brawd hynaf Dafydd yn filwyr ym myddin Saul. Felly un diwrnod, dywedodd Jesse wrth Dafydd: ‘Cymera’r grawn yma ynghyd â deg torth a dos i weld dy frodyr a gofyn iddyn nhw sut mae pethau’n mynd.’

Pan gyrhaeddodd Dafydd wersyll y fyddin, fe redodd drwy rengoedd y milwyr yn chwilio am ei frodyr. Yn sydyn, dyma un o’r Philistiaid, y cawr Goliath, yn ymddangos ac yn dechrau gwneud hwyl am ben yr Israeliaid. Roedd Goliath wedi gwneud yr un peth bob bore a nos am bedwar deg diwrnod. ‘Dewiswch bencampwr i ymladd yn fy erbyn,’ bloeddiodd Goliath. ‘Os bydd eich dyn chi’n ennill ac yn fy lladd i, yna y byddwn ni’n gaethweision i chi. Ond os byddaf innau’n ennill ac yn ei ladd ef, yna y byddwch chithau’n gaethweision i ni. Dewch yn eich blaenau, rydw i’n eich herio chi!’

Gofynnodd Dafydd i rai o’r milwyr: ‘Pa wobr gaiff y dyn sy’n lladd y Philistiad ac sy’n rhoi taw ar y sarhad yn erbyn pobl Israel?’

‘Bydd Saul yn rhoi arian mawr i’r dyn,’ atebodd un o’r milwyr. ‘Ac fe gaiff briodi merch y brenin hefyd.’

Aeth rhai o’r milwyr at Saul a dweud wrtho fod Dafydd yn fodlon ymladd yn erbyn Goliath. Ond dywedodd Saul wrth Dafydd: ‘Chei di ddim ymladd yn ei erbyn. Dim ond llanc wyt ti, ac mae Goliath wedi bod yn filwr ar hyd ei oes.’ Atebodd Dafydd: ‘Rydw i wedi lladd arth a llew a ymosododd ar ddefaid fy nhad. Byddaf yn gwneud yr un fath i’r Philistiad hwn. Bydd Jehofa yn fy helpu.’ Felly dywedodd Saul: ‘Dos, a bydded Jehofa gyda thi.’

Aeth Dafydd i lawr at y nant a chodi pum carreg lefn a’u rhoi yn ei fag. Yna, gyda’i ffon dafl yn ei law, fe gerddodd yn ei flaen i wynebu’r cawr. Pan welodd Goliath Dafydd, ni allai gredu’r peth. Byddai lladd y llanc hwn mor hawdd â lladd pry!

‘Tyrd yma,’ rhuodd Goliath, ‘imi gael rhoi dy gorff yn fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt.’ Ond atebodd Dafydd: ‘Rwyt ti’n dod ataf i â chleddyf a gwaywffon, ond rydw i’n dod atat ti yn enw Jehofa. Y dydd hwn bydd Jehofa yn dy roi di yn fy llaw a byddaf yn dy ladd di.’

Rhedodd Dafydd at Goliath. Cymerodd garreg o’i fag a’i rhoi yn ei ffon dafl. Yna hyrddiodd y garreg nerth ei fraich. Tarodd y garreg Goliath ar ganol ei dalcen ac fe syrthiodd y cawr yn gelain! Pan welodd y Philistiaid fod eu pencampwr wedi marw, dyma nhw’n ei heglu hi oddi yno. Aeth yr Israeliaid ar eu holau ac ennill y frwydr.