Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 59

Dafydd yn Gorfod Ffoi

Dafydd yn Gorfod Ffoi

AR ÔL i Dafydd ladd Goliath, aeth gydag Abner, cadfridog byddin Israel, i siarad â Saul. Roedd Saul wrth ei fodd. Cafodd Dafydd ei benodi yn bennaeth yn y fyddin ac aeth i fyw ym mhalas y brenin.

Un diwrnod, pan oedd y fyddin yn mynd adref ar ôl trechu’r Philistiaid, daeth y merched allan a chanu: ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond mae Dafydd wedi lladd degau o filoedd.’ Pan glywodd Saul fod Dafydd yn cael mwy o anrhydedd nag ef, roedd yn genfigennus. Ond doedd mab Saul, Jonathan, ddim yn genfigennus. Roedd Jonathan a Dafydd yn hoff iawn o’i gilydd. Fe wnaethon nhw addo y bydden nhw’n aros yn ffrindiau am byth.

Roedd Dafydd yn medru canu’r delyn yn dda ac roedd Saul yn hoffi gwrando arno. Ond un diwrnod, mewn pwl o genfigen, gwnaeth Saul rywbeth ofnadwy. Tra oedd Dafydd yn canu’r delyn, cydiodd Saul yn ei waywffon a’i hyrddio at Dafydd, gan feddwl: ‘Fe wnaf ei drywanu i’r wal!’ Neidiodd Dafydd o’r ffordd ond bu bron iddo gael ei ladd. Ceisiodd Saul eto’n nes ymlaen, ond llwyddodd Dafydd i ddianc. Fe wyddai Dafydd fod rhaid iddo fod yn ofalus iawn.

Wyt ti’n cofio bod Saul wedi addo rhoi ei ferch yn wraig i unrhyw ddyn a fyddai’n lladd Goliath? O’r diwedd, rhoddodd ganiatâd i Dafydd briodi Michal. Ond yn gyntaf, roedd yn rhaid iddo ladd cant o’r Philistiaid. Meddylia am hynny! Roedd Saul yn gobeithio y byddai’r Philistiaid yn lladd Dafydd. Ond wnaethon nhw ddim, ac felly rhoddodd Saul ei ferch yn wraig i Dafydd.

Un diwrnod, dywedodd Saul wrth Jonathan ac wrth ei weision ei fod yn bwriadu lladd Dafydd. Ond atebodd Jonathan: ‘Paid â gwneud dim niwed i Dafydd. Dydy ef erioed wedi gwneud dim drwg i ti. Yn wir, y mae wedi dy helpu di’n fawr. Mentrodd ei fywyd i ladd Goliath, ac roeddet ti’n ddiolchgar ar y pryd.’

Gwrandawodd Saul ac addawodd na fyddai’n gwneud dim niwed i Dafydd. Daeth Dafydd yn ôl i wasanaethu’r brenin yn y palas. Ond un diwrnod, pan oedd Dafydd yn canu’r delyn, taflodd Saul ei waywffon tuag ato. Unwaith eto, neidiodd Dafydd o’r neilltu ac aeth y waywffon i mewn i’r wal. Dyna’r trydydd tro i Saul geisio lladd Dafydd! Doedd dim byd amdani ond ffoi!

Y noson honno, aeth Dafydd yn ôl i’w dŷ ei hun. Ond anfonodd Saul ddynion ar ei ôl. Fe wyddai Michal fod Saul yn bwriadu lladd Dafydd, a dywedodd wrtho: ‘Os nad wyt ti’n ffoi heno, yfory fe gei di dy ladd.’ Yn ystod y nos, gwnaeth Michal helpu Dafydd i ddianc trwy’r ffenestr. Am y saith mlynedd nesaf roedd rhaid i Dafydd symud o le i le fel na fyddai Saul yn cael hyd iddo.