Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 60

Abigail a Dafydd

Abigail a Dafydd

A WYT ti’n gwybod pwy yw’r ferch hardd sy’n dod i gwrdd â Dafydd? Abigail yw hon. Roedd hi’n ferch gall, ac fe rwystrodd Dafydd rhag gwneud rhywbeth drwg. Ond cyn inni ddysgu am hynny, gad inni weld beth oedd wedi digwydd i Dafydd.

Ar ôl i Dafydd ddianc oddi wrth Saul, aeth i guddio mewn ogof. Aeth ei frodyr a gweddill ei deulu ato. Ymunodd tua 400 o ddynion ag ef, a daeth Dafydd yn arweinydd arnyn nhw. Yna, aeth Dafydd at frenin Moab a dweud: ‘Gad i fy nhad a fy mam aros gyda thi, nes imi wybod sut bydd pethau arna i.’ Yna, ciliodd Dafydd a’i ddynion i’r bryniau.

Rywbryd ar ôl hynny, daeth Dafydd ar draws Abigail. Roedd Abigail yn briod â dyn cyfoethog o’r enw Nabal. Roedd ganddo diroedd helaeth gyda 3,000 o ddefaid a 1,000 o eifr. Dyn cas oedd Nabal, ond roedd Abigail ei wraig yn ddynes ddeallus a golygus. Un diwrnod fe wnaeth hi achub bywydau ei theulu. Gad inni ddarllen am yr hanes.

Roedd Dafydd a’i ddynion wedi bod yn garedig wrth Nabal ac wedi gwarchod ei fugeiliaid a’i breiddiau. Felly, un diwrnod, anfonodd Dafydd neges at Nabal i ofyn cymwynas ganddo. Roedd hi’n ddiwrnod cneifio ar fferm Nabal ac roedd digonedd o fwyd a diod i bawb. Dywedodd dynion Dafydd wrth Nabal: ‘Rydyn ni wedi bod yn garedig wrthyt ti. Dydyn ni byth wedi dwyn dy ddefaid. Yn wir, rydyn ni wedi gwarchod dy breiddiau. A wnei di gymwynas â ni a rhoi bwyd inni?’

‘Na wnaf’ atebodd Nabal yn swta. ‘Wna i ddim gwastraffu bwyd ar ddynion fel y chi!’ Roedd yn frwnt ei dafod a dywedodd pethau cas iawn am Dafydd. Pan glywodd Dafydd am hyn, fe wylltiodd yn llwyr. ‘Gwisgwch eich cleddyfau!’ meddai wrth ei ddynion. I ffwrdd â nhw wedyn i ladd Nabal a’i ddynion.

Yn y cyfamser, aeth un o weision Nabal at Abigail a dweud wrthi am beth oedd wedi digwydd. Brysiodd Abigail i baratoi bwyd. Llwythodd bopeth ar gefn mulod a chychwyn ar ei ffordd i gyfarfod Dafydd. Pan welodd hi Dafydd yn dod tuag ati, dyma hi’n disgyn oddi ar ei hasyn ac ymgrymu o’i flaen, gan ddweud: ‘Maddau imi syr, ond paid â chymryd dim sylw o beth mae Nabal wedi ei ddweud. Mae fy ngŵr yn ffŵl ac mae’n gwneud pethau gwirion. Dyma fwyd yn rhodd iti. Plîs maddau inni am beth ddigwyddodd.’

‘Rwyt ti’n ferch gall,’ atebodd Dafydd. ‘Rwyt ti wedi fy rhwystro rhag lladd Nabal a dial arno am fod mor gas. Dos adref mewn heddwch.’ Yn nes ymlaen, ar ôl i Nabal farw, daeth Abigail yn un o wragedd Dafydd.