Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 63

Doethineb Solomon

Doethineb Solomon

LLANC ifanc oedd Solomon pan ddaeth yn frenin. Roedd yn caru Jehofa ac yn dilyn cyngor da Dafydd ei dad. Roedd hyn yn plesio Jehofa, ac felly un noson, siaradodd â Solomon mewn breuddwyd, gan ddweud: ‘Solomon, beth hoffet ti i mi ei roi iti?’

Atebodd Solomon: ‘O Jehofa fy Nuw, llanc ifanc dibrofiad ydw i. Dydw i ddim yn gwybod sut i lywodraethu. Rho i mi’r doethineb sydd ei angen i fod yn frenin da.’

Roedd hyn yn plesio Jehofa yn fawr, a dywedodd wrth Solomon: ‘Oherwydd dy fod ti wedi gofyn am ddoethineb, ac nid am hir oes na chyfoeth mawr, byddaf yn dy wneud di’n ddoethach na neb arall. Ti fydd y brenin doethach a fu erioed. Ond ar ben hynny, byddaf yn rhoi iti’r hyn na wnest ti ofyn amdano, sef cyfoeth ac anrhydedd.’

Yn fuan wedyn, daeth dwy wraig o flaen Solomon. ‘Rydyn ni’n byw yn yr un tŷ,’ eglurodd un o’r gwragedd. ‘Rydyn ni’n dwy wedi cael babanod yn ddiweddar. Ond un noson, bu farw ei babi hi. Tra oeddwn i’n cysgu, cymerodd hi fy mab a rhoi’r babi marw yn ei le. Pan godais yn y bore, gwelais yn syth nad fy mab i oedd hwnnw.’

‘Na,’ meddai’r wraig arall. ‘Fy mhlentyn i yw’r un byw. Yr un marw yw dy blentyn di!’ ‘Nage!’ atebodd y wraig gyntaf. ‘Dy blentyn dithau yw’r un marw. Fy mhlentyn innau yw’r un byw!’ Dyma’r ddwy yn ffraeo o flaen y brenin. Beth fyddai Solomon yn ei wneud?

‘Dewch â chleddyf,’ gorchmynnodd y brenin. Daeth y gweision â chleddyf a dyma Solomon yn dweud: ‘Torrwch y plentyn byw yn ei hanner a rhowch hanner yr un i’r ddwy wraig.’

‘Na!’ gwaeddodd y fam go iawn. ‘Peidiwch â lladd fy mabi. Rhowch ef iddi hi!’ Ond dywedodd y wraig arall: ‘Ewch ymlaen. Torrwch ef yn ei hanner. Fydd y naill na’r llall ohonon ni’n ei gael.’

Dywedodd Solomon: ‘Peidiwch â’i ladd. Rhowch y plentyn i’r wraig gyntaf. Hi yw ei fam.’ Roedd y fam go iawn yn caru ei phlentyn gymaint nes ei bod yn barod i’w roi i’r wraig arall yn hytrach na gadael i neb ei niweidio. Pan glywodd y bobl am y ffordd roedd Solomon wedi datrys y broblem, roedden nhw’n falch o gael brenin mor ddoeth.

Bendithiodd Duw deyrnasiad Solomon. Cafwyd cynaeafau da gyda digonedd o wenith a haidd, grawnwin a ffigys a bwydydd eraill. Roedd y bobl yn gwisgo dillad da ac yn byw mewn tai cyfforddus. Roedd mwy na digon i bawb gael bywyd braf.