Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 64

Adeiladu’r Deml

Adeiladu’r Deml

CYN iddo farw, rhoddodd Dafydd y cynllun ar gyfer teml Jehofa i Solomon. Bedair blynedd ar ôl i Solomon ddod yn frenin, dechreuodd ar y gwaith adeiladu. Cymerodd saith mlynedd a hanner i orffen y deml. Roedd miloedd ar filoedd o bobl yn gweithio arni. Roedd yr adeilad yn hynod o gostus oherwydd yr holl aur ac arian roedden nhw’n eu defnyddio.

Yn debyg i’r tabernacl, roedd i’r deml ddwy brif ystafell. Ond roedd yr ystafelloedd hyn ddwywaith gymaint â’r rhai yn y tabernacl. Yn yr ystafell fewnol, rhoddodd Solomon arch y cyfamod. Roedd y pethau eraill a ddaeth o’r tabernacl yn cael eu rhoi yn yr ystafell arall.

Pan oedd y deml yn barod, cynhaliwyd dathliad mawr. Wyt ti’n gweld Solomon yn gweddïo ar ei liniau o flaen y deml? ‘Nid yw’r nefoedd eu hunain yn ddigon mawr i ti,’ dywedodd Solomon wrth Dduw, ‘felly mae’n amhosib iti fyw yn y deml fach hon. Ond eto, O fy Nuw, gwranda ar dy bobl pan fyddan nhw’n gweddïo tua’r lle hwn.’

Prin oedd Solomon wedi gorffen ei weddi, pan ddaeth tân i lawr o’r nef a llosgi’r offrymau ar yr allor. Llanwyd y deml â golau disglair oddi wrth Jehofa. Roedd hyn yn profi bod Jehofa wedi clywed gweddi Solomon a bod y deml yn ei blesio. O hynny ymlaen, byddai pobl yn mynd i’r deml yn hytrach nag i’r tabernacl i addoli Jehofa.

Teyrnasodd Solomon yn llwyddiannus am lawer o flynyddoedd ac roedd y bobl yn hapus. Ond priododd Solomon â nifer mawr o wragedd o wledydd eraill. Doedden nhw ddim yn addoli Jehofa. Wyt ti’n gweld un ohonyn nhw yn y llun, yn addoli delw? Yn y diwedd, fe wnaethon nhw ddenu Solomon i addoli duwiau eraill. Wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd pan wnaeth Solomon hyn? Yn lle bod yn garedig wrth y bobl, fe aeth yn gas ac yn greulon. Doedd y bobl ddim yn hapus mwyach.

Roedd hyn yn gwneud Jehofa yn flin. Dywedodd wrth Solomon: ‘Rydw i’n mynd i gymryd dy deyrnas oddi arnat ti a’i rhoi i rywun arall. Fydda’ i ddim yn gwneud hyn yn ystod dy oes di, ond yn ystod teyrnasiad dy fab. Ond fydda’ i ddim yn cymryd y deyrnas i gyd oddi arno.’ Gad inni weld beth ddigwyddodd.

1 Cronicl 28:9-21; 29:1-9; 1 Brenhinoedd 5:1-18; 2 Cronicl 6:12-42; 7:1-5; 1 Brenhinoedd 11:9-13.