Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 68

Atgyfodi Dau Fachgen

Atgyfodi Dau Fachgen

PETASET ti’n marw, sut byddai dy fam yn teimlo petasai rhywun yn dod â thi yn ôl yn fyw? Wrth gwrs, byddai hi wrth ei bodd. Ond, a yw’n bosibl i bobl gael eu hatgyfodi? Ydy hynny wedi digwydd o’r blaen?

Wyt ti’n gweld y bobl yn y llun? Y proffwyd Elias yw’r dyn. Gwraig weddw o dref Sareffath yw’r ddynes, a’r bachgen yw ei mab. Un diwrnod aeth y bachgen yn sâl iawn. Aeth y salwch o ddrwg i waeth nes iddo farw. Dywedodd Elias wrth y wraig: ‘Rho dy fab i mi.’

Cariodd Elias y bachgen i’r llofft a’i roi ar y gwely. Yna gweddïodd: ‘O Jehofa, tyrd â’r bachgen yn ôl yn fyw!’ A dyma’r bachgen yn dechrau anadlu eto! Aeth Elias ag ef i lawr y grisiau a dweud wrth ei fam: ‘Edrych, mae dy fab yn fyw!’ Roedd y fam yn hynod o hapus.

Un arall o broffwydi pwysig Jehofa oedd Eliseus. Yn y dechrau, roedd Eliseus yn helpu Elias, ond yn nes ymlaen, cafodd Eliseus y nerth gan Jehofa i wneud gwyrthiau. Un diwrnod, aeth Eliseus i dref o’r enw Sunem. Yno, roedd gŵr a gwraig yn garedig iawn wrtho. Ymhen amser, cafodd y wraig fachgen.

Un bore, aeth y bachgen allan at ei dad a oedd yn gweithio yn y caeau. Yn sydyn, dyma’r bachgen yn gweiddi: ‘Mae fy mhen yn brifo’n arw!’ Aeth un o’r gweision ag ef adref ac yno y bu farw. A’i chalon yn torri, aeth ei fam yn syth i nôl Eliseus.

Pan gyrhaeddodd Eliseus, aeth i mewn i’r ystafell lle roedd y bachgen yn gorwedd. Gweddïodd ar Jehofa ac yna gorweddodd yn ofalus ar gorff y bachgen. Cyn bo hir, cynhesodd y corff. Yna, dyma’r bachgen yn tisian saith gwaith. Roedd yn fyw! Pan ddaeth y fam i mewn a gweld ei mab, roedd hi wrth ei bodd!

Mae llawer o bobl yn teimlo’n drist pan fydd anwylyd yn marw. Does gennyn ni mo’r gallu i atgyfodi neb. Ond, mae gan Jehofa y gallu. Yn nes ymlaen, byddwn yn gweld sut bydd Jehofa yn atgyfodi miliynau o bobl.