Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 72

Duw yn Helpu Heseceia

Duw yn Helpu Heseceia

A WYT ti’n gwybod pam mae’r dyn yn gweddïo ar Jehofa? Pam y mae wedi gosod y llythyrau ar y llawr o flaen allor Jehofa? Heseceia yw hwn, brenin ar y ddau lwyth yn ne Israel. Roedd Heseceia yn pryderu’n fawr. Ond, tybed pam?

Roedd byddin Asyria eisoes wedi dinistrio’r deg llwyth yn y gogledd. Fe wnaeth Jehofa adael i hynny ddigwydd oherwydd bod y bobl mor ddrwg. Ond wedyn, daeth yr Asyriaid i ymosod ar deyrnas y ddau lwyth.

Anfonodd brenin Asyria lythyrau at y Brenin Heseceia. Dyma’r llythyrau rwyt ti’n eu gweld yn y llun. Aeth Heseceia â’r llythyrau i’r deml a’u gosod allan o flaen Jehofa. Roedd y llythyrau’n gwawdio Jehofa ac yn dweud y dylai Heseceia ildio ei deyrnas. Dyna pam yr aeth Heseceia at Jehofa a gweddïo: ‘O Jehofa, achub ni o afael brenin Asyria. Yna caiff holl deyrnasoedd y byd wybod mai ti yw’r unig wir Dduw.’ A wnaeth Jehofa wrando ar Heseceia?

Brenin da oedd Heseceia. Roedd yn wahanol i’r brenhinoedd yn nheyrnas y deg llwyth, ac yn wahanol i’w dad, y brenin drwg Ahas. Roedd Heseceia wedi cadw holl gyfraith Jehofa yn ofalus. Felly, ar ôl i Heseceia orffen ei weddi, dyma’r proffwyd Eseia yn anfon neges ato oddi wrth Jehofa, yn dweud: ‘Ni fydd brenin Asyria yn dod i mewn i Jerwsalem. Ni fydd ei filwyr hyd yn oed yn dod yn agos. Ni fyddan nhw’n saethu’r un saeth i mewn i’r ddinas.’

Edrycha ar y llun ar y dudalen hon. Wyt ti’n gwybod pwy yw’r holl filwyr sydd wedi marw? Dyma filwyr Asyria. Anfonodd Jehofa angel, a’r noson honno fe laddodd 185,000 o filwyr Asyria. Ar ôl hynny, bu’n rhaid i frenin Asyria roi’r gorau iddi a mynd yn ôl i’w wlad ei hun.

Cafodd teyrnas y ddau lwyth ei hachub, a daeth heddwch am gyfnod. Ond ar ôl i Heseceia farw, daeth ei fab Manasse yn frenin. Roedd Manasse a’i fab, Amon, ill dau yn frenhinoedd drwg iawn. Felly, yn fuan iawn, roedd y wlad yn llawn trosedd a thrais. Pan gafodd y Brenin Amon ei ladd gan ei weision ei hun, daeth ei fab Joseia yn frenin ar deyrnas y ddau lwyth.