Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 74

Dyn Nad Oedd Ofn Arno

Dyn Nad Oedd Ofn Arno

A WYT ti’n gweld y bobl yn gwneud hwyl am ben y dyn ifanc? Wyt ti’n gwybod pwy yw hwn? Jeremeia yw ei enw ac roedd yn broffwyd pwysig iawn.

Yn fuan ar ôl i’r Brenin Joseia ddechrau dinistrio’r delwau yn y wlad, cafodd Jeremeia ei benodi yn broffwyd gan Jehofa. Roedd Jeremeia yn meddwl ei fod yn rhy ifanc i fod yn broffwyd. Ond dywedodd Jehofa wrtho: ‘Byddaf gyda thi i dy helpu.’

Dywedodd Jeremeia wrth yr Israeliaid am beidio â gwneud pethau drwg. ‘Gau dduwiau yw’r duwiau y mae pobl y cenhedloedd yn eu haddoli,’ meddai. Ond roedd yn well gan lawer o’r Israeliaid addoli delwau yn hytrach nag addoli’r gwir Dduw Jehofa. Pan rybuddiodd Jeremeia y byddai Duw yn cosbi pobl ddrwg, roedden nhw’n chwerthin am ei ben.

Bu farw Joseia ac ymhen tri mis daeth ei fab Jehoiacim i’r orsedd. Roedd Jeremeia yn dal i ddweud wrth y bobl: ‘Os na fyddwch chi’n newid, caiff Jerwsalem ei dinistrio.’ Ar hynny, gafaelodd yr offeiriaid ynddo gan floeddio: ‘Rhaid iti farw am ddweud y fath bethau.’ Yna, dywedon nhw wrth dywysogion Israel: ‘Y mae Jeremeia yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd y mae wedi proffwydo yn erbyn Jerwsalem.’

Beth fyddai Jeremeia yn ei wneud? Doedd dim ofn arno! Dywedodd wrthyn nhw i gyd: ‘Jehofa sydd wedi fy anfon i ddweud y pethau hyn wrthych. Os na fyddwch chi’n gwella eich ffyrdd, bydd Jehofa yn dinistrio Jerwsalem. Ond deallwch hyn: Os lladdwch fi, byddwch yn lladd dyn dieuog.’

Penderfynodd y tywysogion beidio â lladd Jeremeia, ond ni wnaeth yr Israeliaid newid eu ffyrdd. Yn nes ymlaen, daeth Nebuchadnesar, brenin Babilon, i ymosod ar Jerwsalem. Yn y diwedd, aeth yr Israeliaid yn weision iddo. Cafodd miloedd ar filoedd o Israeliaid eu cludo i Fabilon. Dychmyga pa mor anodd fyddai cael dy gymryd o’th gartref a gorfod symud i wlad estron!

Jeremeia 1:1-8; 10:1-5; 26:1-16; 2 Brenhinoedd 24:1-17.