Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 75

Pedwar Bachgen Ffyddlon

Pedwar Bachgen Ffyddlon

CYMERODD y Brenin Nebuchadnesar yr Israeliaid a oedd wedi cael yr addysg orau, a’u cludo nhw i Fabilon. Yna, dewisodd o’u plith y bechgyn mwyaf golygus a galluog. Wyt ti’n gweld pedwar o’r bechgyn yn y llun? Daniel oedd enw un ohonyn nhw, ac roedd y Babiloniaid yn galw’r lleill yn Sadrach, Mesach, ac Abednego.

Cynllun Nebuchadnesar oedd hyfforddi’r bechgyn i weithio yn ei balas. Ar ôl tair blynedd o addysg arbennig, ei fwriad oedd dewis y rhai mwyaf disglair i ddatrys problemau iddo. Roedd y brenin am i’r bechgyn dyfu i fod yn gryf ac yn iach. Felly, gorchmynnodd iddyn nhw fwyta’r bwyd a’r gwin gorau, yr un fath â’r brenin a’i deulu.

Edrycha ar Daniel. Wyt ti’n gwybod beth roedd Daniel yn ei ddweud wrth Aspenas, prif swyddog Nebuchadnesar? Roedd Daniel yn dweud na fyddai’n bwyta’r bwyd moethus o fwrdd y brenin. Ond roedd Aspenas yn poeni. ‘Y brenin sydd wedi pennu eich bwyd a’ch diod,’ meddai. ‘Os na fyddwch yn edrych cystal â’r bechgyn eraill, yna, bydd fy mywyd i yn y fantol!’

Felly, aeth Daniel at y swyddog yr oedd Aspenas wedi ei benodi i ofalu amdano ef a’i ffrindiau. ‘Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod?’ meddai. ‘Gad inni fwyta dim ond llysiau a dŵr. Wedyn, cei di ein cymharu ni â’r bechgyn eraill sy’n derbyn bwyd y brenin a gweld pwy fydd yr iachaf.’

Dyma’r swyddog yn cytuno. Ymhen deg diwrnod, roedd Daniel a’i ffrindiau yn edrych yn iachach na phob un o’r bechgyn eraill. Felly, caniataodd y swyddog iddyn nhw fwyta llysiau yn lle bwyta’r un bwyd â’r brenin a’i deulu.

Ar ddiwedd y tair blynedd, cafodd y bechgyn ifanc i gyd eu cyflwyno i Nebuchadnesar. Ar ôl siarad â phob un, gwelodd y brenin mai Daniel a’i ffrindiau oedd y mwyaf galluog o bell ffordd. Felly, cawson nhw eu dewis i weithio yn y palas. Beth bynnag roedd y brenin yn ei ofyn i Daniel, Sadrach, Mesach, ac Abednego, roedd eu cyngor nhw yn ddeg gwaith gwell nag unrhyw beth roedd offeiriaid a dynion doeth ei deyrnas yn ei gynnig.

Daniel 1:1-21.