Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 76

Dinistrio Jerwsalem

Dinistrio Jerwsalem

ROEDD mwy na 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Brenin Nebuchadnesar gymryd yr Israeliaid oedd wedi cael yr addysg orau i Fabilon. Wyt ti’n gweld beth ddigwyddodd nesaf? Cafodd Jerwsalem ei llosgi! Lladdwyd llawer o’r Israeliaid ac aeth y gweddill yn gaethweision i Fabilon.

Roedd proffwydi Jehofa wedi rhybuddio’r bobl y byddai hyn yn digwydd os nad oedden nhw’n newid. Ond wnaeth yr Israeliaid ddim gwrando ar y proffwydi. Fe wnaethon nhw barhau i addoli gau dduwiau yn hytrach nag addoli Jehofa. Roedden nhw’n haeddu cael eu cosbi. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd ysgrifennodd Eseciel am y pethau drwg yr oedd yr Israeliaid yn eu gwneud.

Wyt ti’n gwybod pwy oedd Eseciel? Roedd Eseciel yn un o’r dynion ifanc a gafodd eu cludo i Fabilon tua 10 mlynedd cyn i Jerwsalem gael ei dinistrio. Cafodd Daniel a’i ffrindiau, Sadrach, Mesach, ac Abednego, eu cymryd i Fabilon yr un pryd.

Tra oedd Eseciel ym Mabilon, rhoddodd Jehofa weledigaeth iddo. Trwy wyrth, roedd Eseciel yn gweld beth oedd yn digwydd ymhell i ffwrdd yn y deml yn Jerwsalem. Pan welodd Eseciel yr holl bethau ofnadwy oedd yn digwydd yno, cafodd sioc ddychrynllyd!

‘Edrycha ar y pethau ffiaidd mae’r bobl yn eu gwneud yn y deml,’ meddai Jehofa wrth Eseciel. ‘Maen nhw wedi rhoi lluniau o nadroedd ac anifeiliaid eraill dros y waliau i gyd. Ac maen nhw yn eu haddoli nhw!’ Gwelodd Eseciel hyn i gyd, a chofnododd bopeth.

Gofynnodd Jehofa i Eseciel: ‘Wyt ti’n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y dirgel?’ Gwelodd Eseciel 70 o ddynion, i gyd yn addoli gau dduwiau. Roedden nhw’n dweud: ‘Dydy Jehofa ddim yn ein gweld ni. Y mae wedi cefnu ar y wlad.’

Nesaf, aeth Jehofa ag Eseciel at borth y gogledd yn y deml. Yno, roedd gwragedd yn eistedd ac yn addoli y gau dduw Tammus. A beth oedd yn digwydd wrth ddrws y deml? Roedd Eseciel yn gallu gweld rhyw 25 o ddynion yn wynebu’r dwyrain ac yn addoli’r haul!

‘Dydy’r bobl hyn ddim yn fy mharchu o gwbl,’ meddai Jehofa. ‘Maen nhw’n gwneud pethau drwg, a hynny hyd yn oed yng nghanol fy nheml! Byddan nhw’n teimlo grym fy nicter, ac ni fyddaf yn tosturio wrthyn nhw pan ddaw’r diwedd.’

Ryw dair blynedd ar ôl i Eseciel gael ei weledigaeth, gwrthryfelodd yr Israeliaid yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar. Felly, aeth Nebuchadnesar i warchae ar Jerwsalem. Ar ôl blwyddyn a hanner, llwyddodd y Babiloniaid i dorri drwy waliau’r ddinas a’i llosgi’n ulw. Cafodd y rhan fwyaf o’r bobl eu lladd neu eu cymryd yn garcharorion i Fabilon.

Pam gadawodd Jehofa i’r Israeliaid gael eu dinistrio mewn ffordd mor erchyll? Doedden nhw ddim wedi gwrando ar ei lais nac ufuddhau i’w orchmynion. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw gwrando ar Jehofa.

Ar y dechrau, roedd ychydig o bobl yn cael aros yng ngwlad Israel. Penododd Nebuchadnesar Iddew o’r enw Gedaleia yn bennaeth arnyn nhw. Ond wedyn, fe wnaeth criw o Israeliaid ladd Gedaleia. Wedi hynny, roedd y bobl yn poeni y byddai’r Babiloniaid yn dial arnyn nhw. Gan ofni am eu bywydau, fe wnaethon nhw ffoi i’r Aifft, gan orfodi Jeremeia i fynd gyda nhw.

Nid oedd neb ar ôl ar dir Israel erbyn hynny. Am 70 o flynyddoedd doedd neb yn byw yn y wlad. Roedd yn hollol wag. Ond addawodd Jehofa y byddai’n dod â’i bobl yn ôl ar ôl 70 o flynyddoedd. Yn y cyfamser, beth ddigwyddodd i bobl Dduw a oedd wedi mynd yn gaethweision i Fabilon? Cawn weld.

2 Brenhinoedd 25:1-26; Jeremeia 29:10; Eseciel 1:1-3; 8:1-18.