Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 82

Mordecai ac Esther

Mordecai ac Esther

AWN yn ôl ychydig o flynyddoedd i’r cyfnod cyn i Esra fynd i Jerwsalem. Bryd hynny, Mordecai ac Esther oedd yr Israeliaid pwysicaf yn nheyrnas Persia. Esther oedd y frenhines, a’i chefnder Mordecai oedd y prif weinidog. Sut digwyddodd hyn?

Bu farw rhieni Esther pan oedd hi’n ifanc, ac felly Mordecai a’i magodd hi. Roedd Mordecai yn gweithio i Ahasferus, brenin Persia, yn y palas yn ninas Susan. Un diwrnod, roedd Fasti, gwraig y brenin, yn anufudd iddo, ac felly dewisodd y brenin wraig arall i fod yn frenhines. Wyt ti’n gwybod pwy a ddewisodd? Dewisodd Esther, a oedd wedi tyfu’n ferch brydferth iawn.

Wyt ti’n gweld y dyn balch y mae pobl yn ymgrymu iddo? Haman yw hwn. Oherwydd ei fod yn ddyn mor bwysig yng ngwlad Persia, roedd Haman yn disgwyl i bawb ymgrymu iddo. Ond, doedd Mordecai ddim yn meddwl ei bod hi’n iawn i ymgrymu i ddyn mor ddrwg. Wyt ti’n gweld Mordecai yn eistedd yno? Pan welai Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu iddo, roedd yn gynddeiriog. Felly, wyt ti’n gwybod beth a wnaeth?

Dywedodd Haman gelwyddau wrth y brenin am yr Israeliaid. ‘Mae’r bobl ddrwg hyn yn torri’r gyfraith,’ meddai. ‘Dylen nhw gael eu lladd.’ Nid oedd Ahasferus yn gwybod mai un o’r Israeliaid oedd Esther ei wraig. Felly, fe wrandawodd ar Haman a rhoddodd orchymyn oedd yn pennu dyddiad i ladd yr Israeliaid i gyd.

Pan glywodd Mordecai am hyn, roedd wedi ei gynhyrfu i’r byw. Anfonodd neges at Esther: ‘Rhaid i ti fynd at y brenin ac erfyn arno i’n hachub ni.’ Ym Mhersia, gallai rhywun gael ei ladd am fynd i weld y brenin heb wahoddiad. Ond serch hynny, mentrodd Esther i fynd i mewn. Estynnodd y brenin ei deyrnwialen aur tuag ati, fel arwydd na fyddai hi’n cael ei lladd. Yna, gofynnodd Esther i’r brenin a Haman ddod am bryd o fwyd. Yn ystod y wledd, gofynnodd y brenin pa gymwynas roedd Esther yn ei cheisio. Dywedodd Esther y byddai hi’n ateb y cwestiwn hwnnw pe bai’r brenin a Haman yn dod i wledd arall y noson wedyn.

Yn ystod y wledd honno, dywedodd Esther wrth y brenin: ‘Mae fy mhobl a minnau yn mynd i gael ein lladd.’ Roedd y brenin yn syfrdan. ‘Pwy fyddai’n meiddio gwneud y fath beth?’ gofynnodd.

‘Y gelyn yw’r Haman drwg hwn!’ atebodd Esther.

Gwylltiodd y brenin yn gacwn a gorchymyn i Haman gael ei ladd. Yna, penododd Mordecai yn brif weinidog. Fe wnaeth Mordecai sicrhau fod cyfraith newydd yn cael ei gwneud i ganiatáu i’r Israeliaid amddiffyn eu hunain. Gan fod Mordecai yn ddyn mor bwysig bellach, roedd llawer o bobl yn helpu’r Israeliaid ar ddiwrnod yr ymosodiad. Roedd Duw wedi achub ei bobl rhag eu gelynion!

Llyfr Esther 1-10.