Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 83

Muriau Jerwsalem

Muriau Jerwsalem

A WYT ti’n gweld beth mae’r bobl yma yn ei wneud? Mae’r Israeliaid yn brysur yn adeiladu muriau Jerwsalem. Pan ddinistriwyd Jerwsalem gan Nebuchadnesar, 152 o flynyddoedd yn gynharach, cafodd y waliau eu chwalu, a chafodd drysau mawr y ddinas eu llosgi. Ar ôl i’r Israeliaid ddychwelyd o Fabilon, wnaethon nhw ddim mynd ati’n syth i adeiladu’r waliau.

Roedd yr Israeliaid wedi byw am flynyddoedd mewn dinas heb wal o’i hamgylch. Sut rwyt ti’n meddwl y byddai’r bobl yn teimlo? Ni fydden nhw wedi teimlo’n ddiogel. Fe allai eu gelynion ymosod arnyn nhw’n hawdd. Ond wedyn, daeth dyn o’r enw Nehemeia i’w helpu nhw i adeiladu’r muriau eto. Wyt ti’n gwybod pwy oedd Nehemeia?

Israeliad oedd Nehemeia, o ddinas Susan, lle roedd Mordecai ac Esther yn byw. Roedd Nehemeia yn gweithio ym mhalas y brenin, felly mae’n bosibl ei fod yn ffrind i Mordecai a’r Frenhines Esther. Nid yw’r Beibl yn dweud bod Nehemeia wedi gweithio i’r Brenin Ahasferus, gŵr Esther, ond roedd yn gweithio i’r brenin nesaf, Artaxerxes.

Artaxerxes, cofia, oedd y brenin da a roddodd arian mawr i Esra er mwyn atgyweirio teml Jehofa yn Jerwsalem. Ond ni chafodd unrhyw waith ei wneud ar furiau’r ddinas. Gad i ni weld sut aeth Nehemeia ati i drefnu’r gwaith hwn.

Aeth 13 o flynyddoedd heibio ar ôl i Esra gael yr arian gan Artaxerxes i atgyweirio’r deml. Erbyn hynny, roedd Nehemeia yn drulliad i’r Brenin Artaxerxes. Ei waith ef oedd gweini gwin i’r brenin, a sicrhau nad oedd dim gwenwyn ynddo. Roedd hi’n swydd bwysig iawn.

Un diwrnod, daeth Hanani, brawd Nehemeia, a dynion eraill o wlad Israel i weld Nehemeia. Dywedon nhw wrtho am helyntion yr Israeliaid, ac am gyflwr drwg muriau Jerwsalem. O glywed hyn, roedd Nehemeia yn drist iawn, ac fe weddïodd ar Jehofa am y sefyllfa.

Yn nes ymlaen, fe welodd y brenin fod Nehemeia yn edrych yn ddigalon. Gofynnodd iddo: ‘Pam rwyt ti’n edrych mor anhapus?’ Dywedodd Nehemeia ei fod yn drist am fod Jerwsalem mewn cyflwr mor ddrwg â’r muriau’n adfeilion. ‘Beth hoffet ti ei wneud?’ gofynnodd y brenin.

‘Gad i mi fynd i Jerwsalem,’ dywedodd Nehemeia, ‘i mi ailadeiladu’r muriau.’ Roedd y Brenin Artaxerxes yn ddyn caredig. Rhoddodd ganiatâd i Nehemeia fynd, ac fe drefnodd iddo gael coed i’w defnyddio at y gwaith. Yn fuan ar ôl i Nehemeia gyrraedd Jerwsalem, esboniodd wrth y bobl am ei gynllun. Roedden nhw’n hoffi’r syniad. ‘Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!’ medden nhw.

Pan welodd gelynion yr Israeliaid fod y waliau yn cael eu codi, dywedon nhw: ‘Awn i ymosod arnyn nhw a’u lladd. Dyna fydd yn rhoi terfyn ar y gwaith.’ Ond clywodd Nehemeia am eu cynllun, ac fe roddodd gleddyfau a gwaywffyn i’r gweithwyr. ‘Peidiwch ag ofni ein gelynion,’ meddai. ‘Ymladdwch dros eich brodyr, eich plant, eich gwragedd, a’ch cartrefi.’

Roedd y bobl yn ddewr iawn. Gan gadw eu harfau wrth law ddydd a nos, aethon nhw ymlaen â’r gwaith. Mewn 52 o ddyddiau roedd y muriau wedi eu cwblhau. O’r diwedd, roedd pawb yn teimlo’n ddiogel yn y ddinas. Dechreuodd Nehemeia ac Esra ddysgu’r bobl am gyfraith Duw ac roedd pawb yn hapus.

Eto, nid oedd pethau yr un fath ag oedden nhw cyn i’r Israeliaid fynd yn gaethweision i Fabilon. Roedd y wlad o dan reolaeth brenin Persia, ac roedd yn rhaid i bawb ei wasanaethu ef. Ond, roedd Jehofa wedi addo anfon brenin newydd a fyddai’n dod â heddwch i’r bobl. Pwy oedd y brenin hwnnw? Sut y byddai ef yn dod â heddwch i’r ddaear? Aeth 450 o flynyddoedd heibio cyn i neb ddysgu mwy am hyn. Yna, fe gafodd babi hynod o bwysig ei eni. Ond, mae honno’n stori arall.

Nehemeia penodau 1 i 6.