RHAN 6
O Enedigaeth Iesu hyd at ei Farwolaeth
Cafodd yr angel Gabriel ei anfon at ferch annwyl o’r enw Mair. Dywedodd wrthi y byddai hi’n cael plentyn a fyddai’n frenin am byth. Cafodd y plentyn, Iesu, ei eni mewn stabl, a daeth bugeiliaid i ymweld ag ef. Yn nes ymlaen, cyrhaeddodd dynion o’r Dwyrain. Roedd seren wedi eu harwain at y plentyn. Cawn wybod pwy achosodd iddyn nhw weld y seren, a sut cafodd Iesu ei achub.
Byddwn yn darllen am Iesu yn siarad ag athrawon yn y deml pan oedd yn 12 mlwydd oed. Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Iesu ei fedyddio. Dechreuodd ar y gwaith o bregethu am y Deyrnas a dysgu pobl am ewyllys Duw. I helpu gyda’r gwaith, dewisodd Iesu 12 dyn i fod yn apostolion iddo.
Fe wnaeth Iesu lawer o wyrthiau. Gyda dim ond nifer bach o bysgod ac ychydig o fara, bwydodd filoedd o bobl. Fe iachaodd bobl sâl a daeth â’r meirw yn ôl yn fyw. Byddwn yn dysgu am beth ddigwyddodd i Iesu ar ddiwrnod olaf ei fywyd, ac am y ffordd iddo gael ei ladd. Roedd Iesu yn pregethu am ryw dair blynedd a hanner, felly mae RHAN 6 yn adrodd hanes cyfnod o ychydig dros 34 o flynyddoedd.
YN Y RHAN HON
STORI 84
Angel yn Dod at Mair
Y mae’n dod â neges at Mair oddi wrth Dduw: Mae hi’n mynd i gael baban a fyddai’n frenin am byth.
STORI 86
Dilyn Seren
Pwy a arweiniodd y dynion o’r dwyrain at Iesu? Efallai bydd yr ateb yn eich synnu.
STORI 88
Ioan yn Bedyddio Iesu
Mae Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio pechaduriaid. Gan nad yw Iesu yn bechadur, pam mae Ioan yn bedyddio Iesu?
STORI 90
Y Wraig Wrth y Ffynnon
Sut gallai’r dŵr y mae Iesu’n cynnig stopio’r wraig rhag sychedu byth eto?
STORI 92
Iesu yn Atgyfodi’r Meirw
Gan ddefnyddio pŵer Duw, dywedodd Iesu dau air syml ac atgyfododd merch Jairus.
STORI 94
Mae Iesu yn Caru Plant
Mae Iesu’n dysgu ei apostolion i fod yn garedig i blant, a hefyd bod gan blant bach lawer o rinweddau gwerthfawr.
STORI 95
Iesu yn Adrodd Stori
Mae dameg Iesu am y Samariad da yn enghraifft o’r modd o ddysgu roedd Iesu’n defnyddio’n aml iawn.
STORI 98
Ar Fynydd yr Olewydd
Iesu yn siarad gyda phedwar o’i apostolion am bethau sy’n digwydd yn ein hoes ni.
STORI 99
Mewn Ystafell ar y Llawr Uchaf
Pam mae Iesu’n gorchymyn i’w disgyblion cynnal y swper arbennig yma pob flwyddyn?