Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 84

Angel yn Dod at Mair

Angel yn Dod at Mair

ENW’R ferch dlos yn y llun yw Mair. Iddewes oedd Mair ac roedd hi’n byw mewn tref o’r enw Nasareth. Roedd Duw yn meddwl bod Mair yn ferch arbennig iawn. Dyna pam anfonodd yr angel Gabriel i siarad â hi. Wyt ti’n gwybod beth ddywedodd Gabriel wrthi? Gad inni weld.

‘Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti!’ meddai Gabriel. ‘Mae Jehofa gyda thi!’ Nid oedd Mair erioed wedi gweld angel o’r blaen. Roedd hi’n poeni, oherwydd doedd hi ddim yn deall y neges o gwbl. Ond tawelodd Gabriel ei meddwl yn syth.

‘Paid ag ofni, Mair. Rwyt ti wedi plesio Jehofa yn fawr. Cei di dy fendithio. Byddi di’n cael mab a’i alw’n Iesu.’

Aeth Gabriel ymlaen: ‘Bydd Iesu yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd Jehofa yn ei benodi’n frenin fel y Brenin Dafydd. Ond bydd Iesu yn frenin am byth. Ni fydd ei deyrnas byth yn dod i ben!’

‘Ond, sut mae’r fath beth yn bosibl?’ gofynnodd Mair. ‘Dydw i ddim wedi priodi eto. Dydw i ddim yn byw gyda dyn, felly sut galla’ i gael babi?’

‘Bydd nerth Duw yn dod arnat ti,’ atebodd Gabriel. ‘Felly bydd y plentyn yn cael ei alw’n Fab Duw. Cofia dy berthynas Elisabeth. Roedd pawb yn dweud ei bod hi’n rhy hen i gael babi. Ond yn fuan iawn fe fydd hi’n cael mab. Yn wir, does dim byd yn amhosibl i Dduw.’

Dywedodd Mair yn syth: ‘Rydw i eisiau gwasanaethu Jehofa! Felly, gad i’r hyn rwyt wedi ei ddweud ddod yn wir.’ Ar hynny, gadawodd yr angel.

Cyn gynted ag y gallai, aeth Mair i ymweld ag Elisabeth. Pan glywodd Elisabeth lais Mair, neidiodd y babi yn ei chroth mewn llawenydd. Cafodd Elisabeth ei llenwi ag ysbryd Duw, a dywedodd wrth Mair: ‘Rwyt ti wedi cael dy fendithio’n fwy nag unrhyw ferch arall!’ Arhosodd Mair gydag Elisabeth am dri mis, ac yna aeth adref i Nasareth.

Roedd Mair yn mynd i briodi dyn o’r enw Joseff. Ond pan glywodd Joseff fod Mair yn disgwyl babi, penderfynodd beidio â’i phriodi. Ond dywedodd angel Duw wrtho: ‘Paid ag ofni cymryd Mair yn wraig. Duw yw’r un sydd wedi rhoi mab iddi.’ Felly, priododd Joseff a Mair. Roedden nhw’n edrych ymlaen at enedigaeth Iesu.