Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 87

Iesu Ifanc yn y Deml

Iesu Ifanc yn y Deml

A WYT ti’n gweld y bachgen yn siarad â’r dynion? Athrawon yn nheml Duw yn Jerwsalem ydyn nhw. Iesu yw’r bachgen. Roedd Iesu yn 12 mlwydd oed erbyn hyn.

Roedd yr athrawon yn synnu bod Iesu yn gwybod cymaint am Dduw ac am y pethau yn y Beibl. Ond pam nad oedd Joseff a Mair yno hefyd? Ble roedden nhw? Gad inni weld.

Bob blwyddyn, byddai Joseff yn dod â’i deulu i Jerwsalem ar gyfer gŵyl Pasg yr Iddewon. Roedd hi’n daith hir o Nasareth i Jerwsalem. Yn y dyddiau hynny, doedd dim ceir a dim trenau. Byddai’r rhan fwyaf o’r bobl yn cerdded yr holl ffordd. Roedd hi’n cymryd tua thri diwrnod i gyrraedd Jerwsalem.

Erbyn hyn roedd gan Joseff nifer o blant i edrych ar eu holau. Roedd gan Iesu frodyr a chwiorydd bach. Wel, y flwyddyn honno, roedd Joseff a Mair a’r plant wedi cychwyn ar y daith hir yn ôl i Nasareth. Roedden nhw’n meddwl bod Iesu yn cerdded gyda ffrindiau. Ond pan stopiodd y teulu ar ddiwedd y dydd, roedden nhw’n methu dod o hyd i Iesu. Fe wnaeth Joseff a Mair holi eu perthnasau a’u ffrindiau, ond doedd dim golwg ohono! Felly, dechreuon nhw gerdded yn ôl i Jerwsalem i chwilio amdano.

O’r diwedd, dyma nhw’n cael hyd i Iesu gyda’r athrawon yn y deml. Roedd yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau. Roedd pawb wedi eu syfrdanu gan atebion doeth Iesu. Ond dywedodd Mair wrtho: ‘Fy machgen, pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a minnau wedi bod yn poeni’n ofnadwy wrth chwilio amdanat ti.’

‘Pam roedd yn rhaid i chi chwilio amdana’ i?’ meddai Iesu. ‘Onid oeddech chi’n gwybod y byddwn yn nhŷ fy Nhad?’

Roedd Iesu wrth ei fodd yn dysgu am Dduw. Wyt ti’n meddwl mai dyna’r ffordd y dylen ni deimlo hefyd? Yn ôl yn Nasareth, byddai Iesu yn mynd i gyfarfodydd i addoli Duw bob wythnos. Roedd Iesu yn gwrando’n ofalus drwy’r amser, ac felly fe ddysgodd lawer o bethau o’r Beibl. Rydyn ni eisiau bod fel Iesu a dilyn ei esiampl, on’d ydyn ni?