Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 88

Ioan yn Bedyddio Iesu

Ioan yn Bedyddio Iesu

A WYT ti’n gweld y golomen yn disgyn ar y dyn yn y llun? Iesu yw’r dyn. Erbyn hyn roedd yn 30 mlwydd oed. Ioan yw’r dyn gyda Iesu. Rydyn ni eisoes wedi dysgu ychydig am Ioan. Wyt ti’n cofio Mair yn mynd i weld ei pherthynas Elisabeth, a’r babi ym mol Elisabeth yn neidio mewn llawenydd? Ioan oedd y babi hwnnw. Ond beth mae Ioan a Iesu yn ei wneud nawr?

Mae Ioan newydd drochi Iesu yn yr Iorddonen. Dyma’r ffordd y mae rhywun yn cael ei fedyddio. Mae’n cael ei roi o dan y dŵr ac yna ei godi o’r dŵr. Fel hyn roedd Ioan yn bedyddio, ac felly roedd y bobl yn ei alw’n Ioan Fedyddiwr. Ond pam gwnaeth Ioan fedyddio Iesu?

Bedyddiodd Ioan Iesu oherwydd i Iesu ofyn iddo. Roedd Ioan yn bedyddio pobl a oedd eisiau dangos eu bod nhw’n drist am y pethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud. Ond, a oedd Iesu erioed wedi gwneud pethau drwg? Nac oedd, oherwydd Mab Duw oedd Iesu. Felly, gofynnodd Iesu i Ioan ei fedyddio am reswm arall. Beth oedd y rheswm hwnnw? Gad inni weld.

Saer oedd Iesu cyn iddo ddod yma at Ioan. Saer yw rhywun sy’n gwneud pethau fel byrddau, cadeiriau, a meinciau allan o bren. Saer oedd Joseff, gŵr Mair, ac fe ddysgodd Iesu’r grefft honno. Ond, nid oedd Jehofa wedi anfon ei Fab i’r ddaear i fod yn saer. Roedd gan Dduw waith pwysig iddo ei wneud, a daeth hi’n amser i Iesu ddechrau ar y gwaith hwnnw. Felly, i ddangos ei fod ar y ddaear er mwyn gwneud ewyllys ei Dad, gofynnodd Iesu i Ioan ei fedyddio. A oedd hynny’n plesio Duw?

Oedd, oherwydd pan gododd Iesu o’r dŵr, dyma lais o’r nefoedd yn dweud: ‘Hwn yw fy Mab, sydd yn fy mhlesio.’ Roedd fel petai’r nefoedd yn agor i Iesu, a disgynnodd y golomen arno. Nid colomen go iawn oedd hon, ond ysbryd glân Duw ar ffurf colomen.

Roedd Iesu eisiau amser i feddwl. Felly fe aeth i ffwrdd ar ei ben ei hun i le tawel am 40 diwrnod. Yno, aeth Satan ato i geisio gwneud iddo dorri cyfraith Duw. Dair gwaith fe geisiodd, ond gwrthod a wnaeth Iesu bob tro.

Ar ôl hynny, dychwelodd Iesu a chwrdd â’r dynion a fyddai’n ddisgyblion cyntaf iddo. Eu henwau oedd Andreas, Pedr, Philip, a Nathanael. Roedd rhai yn galw Pedr yn Simon, a Nathanael yn Bartholomeus. Aeth Iesu â nhw i Galilea. Pan gyrhaeddon nhw, arhoson nhw yng Nghana, lle roedd Nathanael yn byw. Dyna lle aeth Iesu i wledd briodas a gwneud ei wyrth gyntaf. Wyt ti’n gwybod beth oedd y wyrth honno? Ie, fe drodd ddŵr yn win.