Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 89

Glanhau’r Deml

Glanhau’r Deml

MAE Iesu yn edrych yn flin yma, on’d ydy? Wyt ti’n gwybod pam? Roedd Iesu wedi digio wrth y dynion barus yn nheml Duw yn Jerwsalem. Roedden nhw’n ceisio cymryd mantais ar y bobl oedd yn mynd i’r deml i addoli Duw.

Wyt ti’n gweld yr holl wartheg a defaid a cholomennod? Roedd y dynion yn dod â’r anifeiliaid i mewn i’r deml i’w gwerthu! Wyt ti’n gwybod pam? Wel, roedd angen adar ac anifeiliaid ar yr Israeliaid i’w hoffrymu i Dduw.

Yn ôl cyfraith Duw, pan oedd yr Israeliaid yn pechu, roedd yn rhaid iddyn nhw offrymu rhywbeth i Dduw. Roedd yr Israeliaid yn gwneud offrymau ar adegau eraill hefyd. Ond o ble roedd yr Israeliaid yn cael yr adar a’r anifeiliaid i’w hoffrymu i Dduw?

Roedd rhai Israeliaid yn cadw anifeiliaid ac adar, ac felly yn gallu offrymu’r rheini. Ond nid pawb oedd yn berchen ar anifeiliaid. Ac roedd rhai yn byw yn rhy bell o Jerwsalem i ddod â’u hanifeiliaid i’r deml. Felly, fe fyddai pobl yn teithio i’r ddinas ac yn prynu anifeiliaid neu adar yno. Ond roedd y dynion barus yn gofyn pris llawer rhy uchel am yr anifeiliaid. Roedden nhw’n twyllo’r bobl. Ar ben hynny, ni ddylen nhw fod wedi gwerthu pethau o gwbl yng nghanol teml Duw.

Dyna pam roedd Iesu mor flin. Felly, fe drodd fyrddau’r dynion barus drosodd a chwalu’r arian dros bob man. Hefyd, fe wnaeth chwip o raffau a gyrru’r anifeiliaid i gyd allan o’r deml. Gorchmynnodd i’r dynion oedd yn gwerthu’r colomennod: ‘Ewch â’r rhain oddi yma! Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad yn farchnad.

Roedd rhai o ddilynwyr Iesu wedi dod gydag ef i’r deml yn Jerwsalem. Pan welon nhw beth a wnaeth, roedden nhw wedi eu syfrdanu. Yna, fe gofion nhw fod y Beibl wedi dweud am Fab Duw: ‘Bydd cariad at dŷ Duw yn llosgi ynddo fel tân.’

Tra oedd Iesu yn Jerwsalem ar gyfer y Pasg, fe wnaeth lawer o wyrthiau. Yna, gadawodd Iesu Jwdea a chychwyn ar y daith yn ôl i Galilea. Ond ar y ffordd, fe aeth trwy ardal Samaria. Gad inni weld beth ddigwyddodd yno.