Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 90

Y Wraig Wrth y Ffynnon

Y Wraig Wrth y Ffynnon

ROEDD Iesu wedi stopio i orffwys ger ffynnon yn Samaria. Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i’r dref i brynu bwyd. Yn y cyfamser, daeth gwraig at y ffynnon i dynnu dŵr. Dywedodd Iesu wrthi: ‘Rho ddiod imi.’

Roedd y wraig wedi ei synnu’n fawr fod Iesu yn siarad â hi. Wyt ti’n gwybod pam? Roedd Iesu yn Iddew a hithau yn Samariad. Nid oedd y rhan fwyaf o’r Iddewon yn hoffi pobl o Samaria. Doedden nhw ddim hyd yn oed yn fodlon siarad â nhw! Ond roedd Iesu yn caru pob math o bobl. Felly, dywedodd wrthi: ‘Petaet ti ond yn gwybod pwy sy’n gofyn iti am ddiod, ti fyddai’n gofyn am ddiod ganddo ef, a dŵr bywiol y byddai ef yn ei roi i ti.’

‘Syr,’ meddai’r wraig, ‘mae’r ffynnon yn ddwfn a does dim bwced gen ti. O ble fyddi di’n cael y dŵr bywiol yma?’

‘Bydd pawb sy’n yfed dŵr o’r ffynnon hon yn cael syched eto,’ esboniodd Iesu. ‘Ond os wyt ti’n yfed y dŵr sydd gen i, byddi di’n byw am byth.’

‘Syr,’ meddai’r wraig, ‘rho’r dŵr hwn imi! Yna ni fydda’ i’n sychedu byth eto. Ac ni fydda’ i’n gorfod dod i’r ffynnon hon bob dydd i dynnu dŵr.’

Roedd y wraig yn meddwl bod Iesu yn sôn am ddŵr go iawn. Ond, roedd Iesu yn siarad am y gwirionedd ynglŷn â Duw a’i Deyrnas. Mae’r gwirionedd yn debyg i ddŵr bywiol. Mae’n gallu rhoi bywyd tragwyddol i bobl.

Dywedodd Iesu wrth y wraig: ‘Dos i nôl dy ŵr, ac yna tyrd yn ôl.’

‘Does dim gŵr gen i,’ atebodd y wraig.

‘Rwyt ti’n iawn,’ meddai Iesu. ‘Rwyt ti wedi cael pump o wŷr, ac nid yw’r dyn sy’n byw gyda thi nawr yn ŵr i ti.’

Roedd y wraig yn rhyfeddu oherwydd roedd pob gair yn wir. Sut roedd Iesu yn gwybod ei hanes i gyd? Wel, Iesu oedd yr Un Addawedig yr oedd Duw wedi ei anfon i’r ddaear. Felly, Duw a roddodd y wybodaeth iddo. Pan ddaeth y disgyblion yn ôl, roedden nhw’n synnu o weld Iesu yn siarad â dynes, a hithau’n Samariad.

Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hanes hwn? Mae’n dangos bod Iesu yn garedig wrth bobl o bob hil a chefndir. Dylen ni fod yr un fath. Ni ddylen ni feddwl bod rhai pobl yn ddrwg oherwydd eu bod nhw’n perthyn i hil wahanol. Mae Iesu yn dymuno i bawb wybod am y gwirionedd sy’n arwain at fywyd tragwyddol. Dylen ni hefyd fod yn awyddus i helpu pobl i ddysgu’r gwirionedd.