Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 94

Mae Iesu yn Caru Plant

Mae Iesu yn Caru Plant

A WYT ti’n gweld Iesu yn cymryd y bachgen yn ei freichiau? Roedd hi’n hawdd i’r apostolion weld bod Iesu yn hoff iawn o blant. Beth roedd Iesu yn ei ddweud wrthyn nhw? Gad inni weld.

Roedd Iesu a’i apostolion wedi bod ar daith hir. Ar y ffordd, roedd yr apostolion wedi bod yn ffraeo. Felly, ar ddiwedd y daith, dyma Iesu yn gofyn iddyn nhw: ‘Am beth oeddech chi’n dadlau ar y ffordd?’ Wrth gwrs, roedd Iesu’n gwybod yr ateb. Ond gofynnodd y cwestiwn er mwyn gweld beth y bydden nhw’n ei ddweud.

Aeth yr apostolion yn dawel, oherwydd roedden nhw wedi bod yn dadlau am bwy oedd y pwysicaf. Roedd rhai eisiau bod yn fwy pwysig na’r lleill. Sut byddai Iesu yn esbonio mai peth drwg yw ceisio bod yn bwysicach na phobl eraill?

Galwodd Iesu ar y bachgen, a’i osod i sefyll o flaen pawb. Yna, dywedodd wrth ei ddisgyblion: ‘Mae’n rhaid ichi ddeall hyn. Oni bai eich bod yn newid a bod yn debyg i blant bach, fyddwch chi byth yn cael mynd i mewn i Deyrnas Dduw. Y bobl sy’n debyg i’r plentyn hwn fydd y rhai pwysicaf yn y Deyrnas.’ Wyt ti’n gwybod pam dywedodd Iesu hyn?

Wel, dydy plant bach ddim yn poeni am fod yn bwysicach nag eraill. Felly, dylai’r apostolion fod yn fwy tebyg i blant a pheidio â dadlau am bwy yw’r pwysicaf.

Nid dyna’r unig tro i Iesu ddangos ei fod yn caru plant. Rai misoedd yn ddiweddarach, daeth grŵp o bobl â’u plant i weld Iesu. Dywedodd yr apostolion wrthyn nhw am fynd i ffwrdd. Ond dywedodd Iesu wrth yr apostolion: ‘Gadewch i’r plant ddod ata’ i a pheidiwch â’u rhwystro, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn i’r rhai sy’n debyg i blant bach.’ Yna, cymerodd Iesu y plant yn ei freichiau a’u bendithio. Onid ydyn ni’n falch bod Iesu’n caru plant?