Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 96

Iesu yn Gwella Pobl

Iesu yn Gwella Pobl

WRTH i Iesu deithio drwy’r wlad, roedd yn gwella pobl sâl. Aeth y sôn am ei wyrthiau ar led trwy’r ardal. Roedd pobl a oedd yn anabl, neu a oedd â nam ar eu clyw neu ar eu golwg, yn dod ato. Ac fe wnaeth Iesu eu gwella nhw i gyd.

Erbyn hyn, roedd tair blynedd wedi mynd heibio ers i Ioan fedyddio Iesu. Esboniodd Iesu wrth yr apostolion y byddai’n mynd i Jerwsalem cyn bo hir, ac yno y byddai’n cael ei ladd a’i atgyfodi. Yn y cyfamser, roedd Iesu yn parhau i wella pobl sâl.

Un diwrnod, roedd Iesu yn dysgu ar y Saboth. I’r Iddewon, dydd o orffwys oedd y Saboth. Wyt ti’n gweld y wraig yn y llun? Roedd hi wedi bod yn sâl ers 18 mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu, nes bod hi’n methu sefyll yn syth. Ond pan roddodd Iesu ei ddwylo arni, sythodd ei chefn ar unwaith!

Pan welodd yr arweinwyr crefyddol hyn, roedden nhw’n ddig. Gwaeddodd un ohonyn nhw ar y dyrfa: ‘Mae chwe diwrnod i weithio. Dyna pryd y dylech chi ddod i gael eich iacháu, nid ar y Saboth!’

Ond atebodd Iesu: ‘Peidiwch â bod mor ddrwg! Byddai pob un ohonoch yn gollwng ei asyn yn rhydd ar y Saboth iddo gael yfed. Onid yw’n iawn felly i’r wraig hon gael ei hiacháu ar y Saboth, a hithau wedi bod yn sâl ers 18 mlynedd?’ Roedd ateb Iesu yn codi cywilydd ar y dynion drwg.

Yn ddiweddarach, teithiodd Iesu a’i apostolion i Jerwsalem. Ar gyrion Jericho, roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd. Pan glywon nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw’n gweiddi: ‘Iesu, helpa ni!’

Galwodd Iesu y ddau ato a gofyn: ‘Beth rydych chi eisiau imi ei wneud ichi?’ Dywedon nhw: ‘Arglwydd, gad inni gael gweld.’ Cyffyrddodd Iesu a’u llygaid, ac ar unwaith roedden nhw’n gallu gweld! Pam roedd Iesu yn gwneud yr holl wyrthiau hyn? Roedd Iesu’n caru pobl ac yn dymuno iddyn nhw roi ffydd ynddo. Gallwn ni fod yn gwbl sicr, pan fydd Iesu yn teyrnasu, ni fydd neb ar y ddaear yn sâl byth eto.