Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 98

Ar Fynydd yr Olewydd

Ar Fynydd yr Olewydd

DYMA Iesu ar Fynydd yr Olewydd. Y dynion gydag ef yw’r apostolion Andreas, Pedr, Iago, ac Ioan. Mae teml Duw yn Jerwsalem i’w gweld yn y cefndir.

Roedd dau ddiwrnod wedi mynd heibio ers i Iesu gyrraedd Jerwsalem ar gefn yr asyn ifanc. Roedd hi’n ddydd Mawrth erbyn hyn, a’r bore hwnnw roedd Iesu wedi bod yn y deml. Yno, roedd yr offeiriaid wedi ceisio cael gafael ar Iesu i’w ladd. Ond, roedd arnyn nhw ofn gwneud hynny oherwydd roedd y bobl yn hoff iawn o Iesu.

‘Rydych chi fel nadroedd gwenwynig,’ meddai Iesu wrth yr arweinwyr crefyddol. Yna, dywedodd y byddai Duw yn eu cosbi am yr holl bethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud. Ar ôl hynny, aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd, a dyma’r pedwar apostol yn dechrau ei holi. Wyt ti’n gwybod beth roedden nhw yn ei ofyn?

Roedd yr apostolion yn holi am y dyfodol. Roedden nhw’n gwybod bod Iesu yn bwriadu cael gwared ar yr holl ddrygioni yn y byd. Ond, roedden nhw eisiau gwybod pryd byddai hynny’n digwydd. Pryd byddai Iesu’n dod yn ôl i deyrnasu dros y ddaear?

Roedd Iesu’n gwybod mai o’r nef y byddai’n teyrnasu, ac felly ni fyddai’n bosibl i’w ddisgyblion ar y ddaear ei weld. Felly disgrifiodd Iesu rai o’r pethau a fyddai’n digwydd ar y ddaear pan fyddai ef yn Frenin yn y nefoedd. Pa fath o bethau?

Dywedodd Iesu y byddai rhyfeloedd mawr ar y ddaear a byddai llawer o bobl yn sâl ac yn newynog. Ar ben hynny, byddai daeargrynfeydd mawr a llawer mwy o droseddu. Ond dywedodd Iesu hefyd y byddai ei ddilynwyr yn cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw drwy’r byd i gyd. Ydyn ni wedi gweld y fath bethau yn digwydd yn ein dyddiau ni? Do! Dyna sut rydyn ni’n gwybod bod Iesu yn teyrnasu nawr yn y nefoedd. Yn fuan iawn, bydd Iesu yn cael gwared ar yr holl ddrygioni yn y byd.