Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 100

Yng Ngardd Gethsemane

Yng Ngardd Gethsemane

AR ÔL gadael yr ystafell, aeth Iesu a’r apostolion i ardd Gethsemane. Roedden nhw wedi bod yma lawer o weithiau. Dywedodd Iesu wrthyn nhw am aros yn effro a gweddïo. Yna fe gerddodd ymlaen ychydig i weddïo â’i wyneb i’r llawr.

Yn nes ymlaen, daeth Iesu yn ôl at ei apostolion. Ond beth roedden nhw yn ei wneud? Roedden nhw’n cysgu! Dair gwaith dywedodd Iesu wrthyn nhw am aros yn effro, ond bob tro y deuai yn ei ôl, roedden nhw wedi mynd i gysgu. ‘Sut gallwch chi gysgu ar adeg fel hon?’ meddai Iesu pan aeth yn ei ôl am y trydydd tro. ‘Mae’r amser wedi dod imi gael fy rhoi yn nwylo fy ngelynion.’

Ar y gair, dyma sŵn torf yn cyrraedd. Roedd y dynion yn cario cleddyfau a phastynau! Er mwyn gweld yn y tywyllwch, roedd rhai yn cario ffaglau. Wrth iddyn nhw ddod yn nes, camodd un dyn allan o’r dorf. Cerddodd yn syth at Iesu a’i gusanu. Jwdas Iscariot oedd y dyn. Ond pam rhoddodd Jwdas gusan i Iesu?

Gofynnodd Iesu: ‘Jwdas, ai â chusan rwyt ti’n fy mradychu?’ Arwydd oedd y gusan i ddangos i’r dynion pa un oedd Iesu. Yna rhuthrodd gelynion Iesu ymlaen a gafael ynddo. Ond nid oedd Pedr am adael iddyn nhw gymryd Iesu heb frwydr, ac fe dynnodd ei gleddyf. Anelodd ergyd wyllt at y dyn agosaf, gan dorri ei glust dde i ffwrdd. Ond cyffyrddodd Iesu â chlust y dyn a’i hiacháu.

Dywedodd Iesu wrth Pedr: ‘Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le. Petawn i am gael fy achub, fe allwn i ofyn i’m Tad anfon miloedd o angylion i’m helpu.’ Ond ni wnaeth Iesu ofyn i Dduw anfon angylion. Roedd yn gwybod bod yr amser wedi dod i’w elynion ei gymryd, ac felly fe adawodd iddyn nhw ei arwain i ffwrdd. Gad inni weld beth ddigwyddodd i Iesu nesaf.