Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 7

O Atgyfodiad Iesu hyd at Garcharu Paul

O Atgyfodiad Iesu hyd at Garcharu Paul

Ar y trydydd dydd ar ôl iddo farw, cafodd Iesu ei atgyfodi. Y diwrnod hwnnw ymddangosodd i’w ddilynwyr ar bum achlysur gwahanol. Parhaodd Iesu i ymddangos iddyn nhw am 40 diwrnod. Yna, a’i ddisgyblion yn gwylio, esgynnodd Iesu i’r nefoedd. Ddeg diwrnod yn ddiweddarach, tywalltodd Duw ei ysbryd glân ar ddilynwyr Iesu yn Jerwsalem.

Yn nes ymlaen, cafodd yr apostolion eu rhoi yn y carchar gan elynion Duw, ond daeth angel i’w hachub. Cafodd Steffan ei ladd gan wrthwynebwyr. Ond dewisodd Iesu un o’r gwrthwynebwyr hynny i fod yn was arbennig iddo, a hwnnw oedd yr apostol Paul. Dair blynedd a hanner ar ôl i Iesu farw, anfonodd Duw yr apostol Pedr i bregethu i filwr Rhufeinig o’r enw Cornelius a’i deulu.

Tua 13 o flynyddoedd ar ôl hynny, cychwynnodd Paul ar ei daith bregethu gyntaf. Aeth Timotheus gyda Paul ar yr ail daith. Cafodd Paul a’i gymdeithion lawer o brofiadau cyffrous yn gwasanaethu Duw. Yn y diwedd, cafodd Paul ei garcharu yn Rhufain. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei ryddhau ond yna ei garcharu eto a’i ladd. Mae RHAN 7 yn adrodd hanes rhyw 32 o flynyddoedd.

 

YN Y RHAN HON

STORI 102

Mae Iesu yn Fyw

Wedi i’r angel rolio’r garreg oddi ar fedd Iesu, mae’r milwyr sy’n gwarchod y bedd yn syfrdan ar beth a welsant tu mewn.

STORI 103

Ymddangos i’r Disgyblion

Pam nad ydy disgyblion Iesu yn ei adnabod ar ôl iddo gael ei atgyfodi?

STORI 104

Yn ôl i’r Nefoedd

Cyn i Iesu esgyn i’r awyr, mae ef yn rhoi gorchymyn olaf i’w ddisgyblion.

STORI 105

Aros yn Jerwsalem

Pam tywalltwyd Iesu ysbryd glân ar ei ddisgyblion ym Mhentecost?

STORI 106

Rhyddhau’r Apostolion

Mae’r arweinwyr crefyddol Iddewig yn carcharu’r apostolion er mwyn stopio’u gwaith pregethu, ond mae gan Dduw gynllun gwahanol.

STORI 107

Steffan yn Cael ei Ladd

Wrth iddo gael ei ladd, mae Steffan yn dweud gweddi fendigedig.

STORI 108

Ar y Ffordd i Ddamascus

Mae golau llachar a llais o’r nefoedd yn newid bywyd Saul.

STORI 109

Pedr a Cornelius

Ydy Duw yn meddwl mae pobl o’r un hil neu wlad yn well na rhai o hil neu wlad arall?

STORI 110

Timotheus yn Helpu Paul

Aeth Timotheus gyda Paul ar daith bregethu gyffrous.

STORI 111

Bachgen a Aeth i Gysgu

Wnaeth Eutychus disgyn i gysgu yn ystod anerchiad cyntaf Paul, ond nid yn ystod ei ail anerchiad. Roedd yr hyn a digwyddodd rhwng y ddau anerchiad yn wyrthiol.

STORI 112

Llongddrylliad

Wrth i’r bobl colli pob gobaith, mae Paul yn derbyn neges oddi wrth Dduw sy’n codi ei galon.

STORI 113

Paul yn Rhufain

Sut gallai Paul gwneud ei waith fel apostol tra ei bod yn y carchar?