Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 103

Ymddangos i’r Disgyblion

Ymddangos i’r Disgyblion

AR ÔL i Pedr ac Ioan ymadael, arhosodd Mair wrth y bedd ar ei phen ei hun, a dechrau crio. Plygodd i edrych i mewn i’r bedd, fel y gwelon ni yn y llun diwethaf. Dyna lle y gwelodd hi’r ddau angel. Gofynnon nhw: ‘Pam rwyt ti’n wylo?’

‘Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,’ atebodd Mair, ‘a dydw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi ei roi.’ Yna trodd Mair a gweld dyn dieithr. ‘Am bwy rwyt ti’n chwilio?’ meddai’r dyn.

Roedd Mair yn meddwl mai’r garddwr oedd y dyn, ac efallai ef oedd wedi symud corff Iesu. Felly dywedodd wrtho: ‘Os mai ti sydd wedi ei symud, dywed lle rwyt ti wedi ei roi.’ Ond Iesu ei hun oedd y dyn. Roedd yn edrych yn wahanol, ac felly nid oedd Mair yn ei adnabod. Ond pan alwodd ei henw, roedd Mair yn gwybod mai Iesu ydoedd. Rhedodd hi at y disgyblion a dweud: ‘Rydw i wedi gweld yr Arglwydd!’

Yn nes ymlaen, roedd dau o’r disgyblion ar eu ffordd i bentref o’r enw Emaus, pan ddaeth dyn dieithr i gerdded gyda nhw. Roedd y disgyblion yn ddigalon iawn am fod Iesu wedi ei ladd. Ond wrth iddyn nhw gerdded, esboniodd y dyn nifer o bethau o’r Beibl a chododd eu calonnau. Ar ddiwedd y daith eisteddon nhw am swper, ac yna sylweddolodd y disgyblion mai Iesu oedd y dyn. Ond diflannodd o’u golwg. Brysiodd y disgyblion yr holl ffordd yn ôl i Jerwsalem i ddweud wrth yr apostolion.

Yn y cyfamser, er mawr cyffro i’r disgyblion eraill, roedd Iesu wedi ymddangos i Pedr. A phan gyrhaeddodd y ddau ddisgybl o Emaus, dywedon nhw fod Iesu wedi ymddangos iddyn nhw hefyd. Tra oedden nhw wrthi’n siarad, a wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd?

Edrycha ar y llun. Yn sydyn, er bod y drws wedi ei gloi, roedd Iesu yn yr ystafell gyda nhw. Roedd y disgyblion wrth eu boddau. Am ddiwrnod cyffrous! Wyt ti’n cofio faint o weithiau ymddangosodd Iesu i’w ddilynwyr? Ai pump o weithiau?

Nid oedd Thomas yno pan ymddangosodd Iesu. Felly dywedodd y disgyblion wrtho: ‘Rydyn ni wedi gweld yr Arglwydd!’ Ond dywedodd Thomas y byddai’n rhaid iddo weld Iesu drosto’i hun cyn iddo gredu. Wel, tua wythnos yn ddiweddarach, roedd y disgyblion gyda’i gilydd, a’r tro hwnnw roedd Thomas gyda nhw. Unwaith eto roedd y drysau wedi eu cloi, ond yn sydyn dyma Iesu yn dod i mewn. Nid oedd Thomas yn amau bellach.