Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 104

Yn ôl i’r Nefoedd

Yn ôl i’r Nefoedd

DROS yr wythnosau nesaf, ymddangosodd Iesu i’w ddilynwyr sawl gwaith. Un tro, cafodd ei weld gan dros 500 o ddisgyblion. Ar yr achlysuron hynny, wyt ti’n gwybod beth roedd Iesu yn siarad amdano? Ie, am Deyrnas Dduw. Anfonodd Jehofa Iesu i’r ddaear i ddysgu pobl am y Deyrnas. A dyna beth a wnaeth, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei atgyfodi.

Wyt ti’n cofio beth yw Teyrnas Dduw? Y Deyrnas yw llywodraeth Duw yn y nefoedd, a Iesu yw’r Un y mae Duw wedi ei ddewis i fod yn frenin arni. Rydyn ni wedi dysgu pa fath o frenin y bydd Iesu. Y mae wedi dangos ei fod yn gallu rhoi bwyd i’r newynog, gwella pobl sâl, a hyd yn oed atgyfodi’r meirw!

Beth fydd yn digwydd ar y ddaear pan fydd Iesu yn teyrnasu yn y nefoedd am fil o flynyddoedd? Bydd yr holl ddaear yn cael ei throi’n baradwys hyfryd. Ni fydd rhagor o ryfeloedd, troseddu, afiechydon, na marwolaeth. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd fe greodd Duw y ddaear i fod yn baradwys. Dyna pam y creodd gardd Eden. Bydd Iesu yn sicrhau bod ewyllys Duw yn cael ei wneud.

Yn y diwedd, daeth hi’n amser i Iesu fynd yn ôl i’r nefoedd. Roedd Iesu wedi bod yn ymddangos i’w ddisgyblion am 40 diwrnod. Felly nid oedd amheuaeth nad oedd Iesu’n fyw. Ond cyn iddo adael ei ddisgyblion, dywedodd wrthyn nhw: ‘Arhoswch yn Jerwsalem nes y byddwch chi’n derbyn yr ysbryd glân.’ Grym gweithredol yw’r ysbryd glân, yn debyg i’r gwynt. Mae’n gallu helpu pobl i wneud ewyllys Duw. Yn olaf, dywedodd Iesu: ‘Rydych chi i bregethu amdanaf drwy’r byd i gyd.’

Ar ôl i Iesu ddweud hynny, digwyddodd rhywbeth rhyfeddol. Dechreuodd Iesu godi tua’r nefoedd, fel y gweli di yn y llun. Yna, daeth cwmwl a’i guddio o’u golwg. Ni welodd y disgyblion mohono eto. Aeth Iesu i’r nefoedd, a dechrau teyrnasu dros ei ddilynwyr ar y ddaear.