Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 110

Timotheus yn Helpu Paul

Timotheus yn Helpu Paul

Y DYN ifanc rwyt ti’n ei weld yma gyda’r apostol Paul yw Timotheus. Roedd Timotheus yn byw gyda’i deulu yn Lystra. Enw ei fam oedd Eunice, a Lois oedd enw ei nain.

Dyma’r trydydd tro i Paul ymweld â Lystra. Tua blwyddyn yn gynharach, roedd Paul a Barnabas wedi pregethu yno am y tro cyntaf. Ond y tro hwn, roedd Paul wedi dod â’i ffrind Silas.

Wyt ti’n gwybod beth roedd Paul yn ei ddweud wrth Timotheus? Roedd yn gofyn: ‘Hoffet ti ddod gyda Silas a fi? Byddet ti’n gallu ein helpu ni i bregethu mewn gwledydd pell.’

‘Hoffwn i fynd,’ atebodd Timotheus. Felly cyn bo hir, dyma Timotheus yn gadael ei deulu a mynd gyda Paul a Silas. Ond cyn inni ddysgu am y daith honno, gad inni weld beth oedd wedi digwydd i Paul ers i Iesu ymddangos iddo ar y ffordd i Ddamascus ryw 17 mlynedd ynghynt.

Os wyt ti’n cofio, roedd Paul yn mynd i Ddamascus er mwyn cam-drin disgyblion Iesu. Ond fe ddaeth ef ei hun yn ddisgybl! Nid oedd gelynion Paul yn hapus ei fod yn pregethu am Iesu ac fe wnaethon nhw gynllun i’w ladd. Felly, fe wnaeth y disgyblion helpu Paul i ddianc drwy ei roi mewn basged a’i ollwng i lawr y tu allan i furiau’r ddinas.

Ar ôl hynny aeth Paul i bregethu yn Antiochia. Dyma lle cafodd dilynwyr Iesu eu galw’n Gristnogion am y tro cyntaf. O Antiochia cafodd Paul a Barnabas eu hanfon ar daith bregethu i nifer o wledydd pell. Ar y daith honno, aethon nhw i Lystra, lle roedd Timotheus yn byw.

Tua blwyddyn wedyn, ar ei ail daith genhadol, aeth Paul yn ôl i Lystra. Pan adawodd Timotheus gyda Paul a Silas, wyt ti’n gwybod lle aethon nhw? Edrycha ar y map, a byddwn ni’n dysgu rhai o’r enwau.

Yn gyntaf, aethon nhw i dref agos o’r enw Iconium, ac yna i ddinas arall o’r enw Antiochia. Ymlaen wedyn i Troas, Philipi, Thesalonica, a Berea. Wyt ti’n gweld Athen ar y map? Roedd Paul yn pregethu yno. Wedyn fe fuon nhw yng Nghorinth am flwyddyn a hanner. Yn olaf, arhoson nhw yn Effesus am ychydig o amser cyn dychwelyd mewn llong i Gesarea a mynd yn ôl adref i Antiochia.

Teithiodd Timotheus gannoedd o filltiroedd yn helpu Paul i gyhoeddi’r newyddion da a sefydlu cynulleidfaoedd Cristnogol. Pan fyddi di’n tyfu, a fyddi di’n gwasanaethu Duw yn ffyddlon fel y gwnaeth Timotheus?