Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 116

Byw am Byth

Byw am Byth

A WYT ti’n gweld beth mae’r ferch fach a’i ffrindiau yn ei ddarllen? Maen nhw’n darllen yr un llyfr rwyt ti’n ei ddarllen—Storïau o’r Beibl. Ac maen nhw’n darllen yr un stori—“Byw am Byth.”

Wyt ti’n gwybod beth maen nhw’n ei ddysgu? Maen nhw’n dysgu bod angen inni ddod i adnabod Jehofa a’i Fab Iesu er mwyn cael byw am byth. Mae’r Beibl yn dweud: ‘Dyma’r ffordd i fyw am byth. Mae’n rhaid dod i adnabod yr unig wir Dduw a’r Mab a anfonodd i’r ddaear, Iesu Grist.’

Sut gallwn ni ddysgu am Jehofa Dduw a’i Fab Iesu? Un ffordd yw drwy ddarllen Storïau o’r Beibl o glawr i glawr. Mae wedi dweud llawer wrthon ni am Jehofa a Iesu, on’d ydy? Mae’n sôn am y pethau y maen nhw wedi eu gwneud yn y gorffennol, ac am y pethau y byddan nhw yn eu gwneud yn y dyfodol. Ond mae angen inni wneud mwy na darllen y llyfr hwn.

Wyt ti’n gweld y llyfr arall? Ie, dyna’r Beibl. Efallai y gelli di ofyn i rywun ddarllen rhai o’r storïau iti o’r Beibl ei hun. Mae’r Beibl yn rhoi inni’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i wasanaethu Jehofa yn y ffordd iawn a chael byw am byth. Dylen ni geisio darllen y Beibl bob dydd.

Ond mae angen mwy na dysgu am Jehofa Dduw a Iesu Grist. Byddai’n bosibl inni wybod llawer iawn amdanyn nhw ac am yr hyn sydd yn eu plesio, ac eto methu cael bywyd tragwyddol. Wyt ti’n gwybod beth arall sydd ei angen?

Mae angen inni fyw ein bywydau mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. Wyt ti’n cofio Jwdas Iscariot? Roedd Jwdas yn un o’r 12 a ddewisodd Iesu i fod yn apostolion iddo. Roedd yn gwybod llawer am Jehofa a Iesu. Ond beth ddigwyddodd iddo? Aeth Jwdas yn hunanol, ac yn y diwedd fe roddodd Iesu yn nwylo ei elynion am 30 darn o arian. Felly ni fydd Jwdas yn cael byw am byth.

Wyt ti’n cofio Gehasi yn Stori 69? Roedd Gehasi yn dymuno dillad ac arian nad oedd yn perthyn iddo, ac felly fe ddywedodd gelwydd. Cafodd ei gosbi gan Jehofa. Bydd Jehofa yn ein cosbi ni hefyd os nad ydyn ni’n ufuddhau i’w orchmynion.

Ond mae llawer o bobl dda wedi bod yn ffyddlon i Jehofa. Rydyn ni eisiau bod yn debyg iddyn nhw. Wyt ti’n cofio esiampl dda Samuel yn Stori 55? Mae’n debyg nad oedd Samuel yn llawer mwy na thair oed pan aeth i wasanaethu Jehofa yn y tabernacl. Felly ni waeth pa mor ifanc wyt ti, rwyt ti’n gallu gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon.

Wrth gwrs, Iesu Grist yw’r un rydyn ni i gyd yn dymuno ei ddilyn. Fel y gwelon ni yn Stori 87, pan oedd Iesu’n ifanc, roedd yn mynd i’r deml i siarad ag eraill am ei Dad nefol. Rydyn ni’n gallu dilyn ei esiampl a siarad â phobl eraill am ein Duw mawr Jehofa a’i Fab Iesu Grist. Os ydyn ni’n gwneud hynny, byddwn ni’n cael byw am byth yn y baradwys newydd ar y ddaear.

Ioan 17:3; Salm 145:1-21.