Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“’Dyw E Ddim yn Wir!”

“’Dyw E Ddim yn Wir!”

FE DDYWED DYN o Efrog Newydd (U.D.A.): “’Roedd fy mab Jonathan yn ymweld â ffrindiau ychydig filltiroedd i ffwrdd. ’Doedd fy ngwraig, Valentina, ddim yn hoffi iddo fynd allan yno. ’Roedd hi bob amser yn bryderus ynglŷn â’r traffig. Ond ’roedd e wrth ei fodd ag electroneg, ac ’roedd gan ei ffrindiau weithdy lle medrai e gael profiad ymarferol. ’Roeddwn i gartre’ yng ngorllewin Manhattan, Efrog Newydd. ’Roedd fy ngwraig oddi cartre’ yn ymweld â’i theulu yn Puerto Rico. ‘Fe fydd Jonathan adre toc,’ meddyliais. Yna fe ganodd y gloch. ‘Fe sy’ ’na mae’n siwr.’ Nage. Yr heddlu a pharafeddygon oedd ’na. ‘Ydych chi’n ’nabod y drwydded yrru ’ma?’ holodd y plisman. ‘Ydw, un Jonathan fy mab i ydi hi.’ ‘Mae gennyn ni newyddion drwg i chi. Mae ’na ddamwain wedi bod, ac . . . mae’ch mab chi, . . . mae’ch mab chi wedi cael ei ladd.’ Fy ymateb cynta’ i oedd, ‘’Dyw e ddim yn wir!’ Fe agorodd yr ergyd honno friw yn ein calonnau sy’n dal yno, hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.”

‘Mae gennyn ni newyddion drwg i chi. Mae ’na ddamwain wedi bod, ac . . . mae’ch mab chi, . . . mae’ch mab chi wedi cael ei ladd.’

Fe ysgrifenna tad yn Barcelona (Sbaen): “Yn ôl yn Sbaen 60au’r ganrif hon, ’roedden ni’n deulu hapus. Ein teulu oedd María, fy ngwraig, a’n tri phlentyn, David 13 oed, Paquito 11 oed ac Isabel 9 oed.

“Un diwrnod ym mis Mawrth 1963, daeth Paquito adre o’r ysgol yn cwyno gan boenau difrifol yn ei ben. ’Roedden ni’n methu â dirnad be’ allai fod yn achosi hyn—ond nid am hir. Deirawr yn ddiweddarach ’roedd e’n farw. ’Roedd gwaedlif cerebral wedi difa’i fywyd e.

“Mae dros 30 mlynedd ers pan fu farw Paquito. Hyd yn oed wedyn, mae loes dwfn y golled honno yn aros gyda ni hyd heddiw. Mae’n amhosib’ i rieni golli plentyn a pheidio â theimlo eu bod nhw wedi colli rhan ohonyn’ nhw eu hunain—’does dim gwahaniaeth faint o amser sy’n mynd heibio na faint o blant eraill sy’ ganddyn’ nhw.”

Mae’r ddau brofiad yma, lle ’roedd rhieni wedi colli plant, yn dangos mor ddwfn a pharhaol ydi’r briw pan fo plentyn yn marw. Mor wir ydi geiriau doethur a ysgrifennodd: “Mae marwolaeth plentyn fel arfer yn fwy trasig a thrawmatig na marw person hŷn oherwydd ’does neb yn disgwyl i blentyn farw. . . . Mae marwolaeth unrhyw blentyn yn cynrychioli chwalu breuddwydion am y dyfodol, perthnasau [mab, merch-yng-nghyfraith, wyrion], profiadau . . . heb fod eto wedi eu mwynhau.” Ac fe all yr ymwybod yma o golled ddofn fod yn brofiad hefyd i unrhyw wraig sy’ wedi dioddef colli babi cyn ei eni.

Fe eglura gwraig a gollodd ei gŵr: “’Roedd fy ngŵr, Russell, wedi gwasanaethu fel cynorthwy-ydd meddygol ym maes rhyfel Y Môr Tawel yn ystod Rhyfel Byd II. ’Roedd e wedi gweld rhai brwydrau erchyll a’u goroesi nhw. Fe ddychwelodd i’r Unol Daleithiau ac i fywyd digyffro. Yn ddiweddarach fe wasanaethodd fel gweinidog Gair Duw. Pan oedd yn ei 60au cynnar fe ddechreuodd gael symptomau trafferthion â’i galon. Fe geisiodd fyw bywyd prysur. Yna, un diwrnod yng Ngorffennaf 1988, fe gafodd drawiad anferth ar ei galon a marw. ’Roedd ei golli yn brofiad erchyll. ’Chefais i ddim hyd yn oed ffarwelio ag e. ’Roedd e’n fwy na gŵr i mi. Fe oedd fy ffrind gorau i. ’Roedden ni wedi rhannu 40 mlynedd o fywyd gyda’n gilydd. ’Roedd hi’n ymddangos ’nawr fel pe byddai’n rhaid i mi wynebu rhyw unigrwydd arbennig.”

Dim ond ychydig ydi’r rhain o’r miloedd trasiedïau sy’n taro teuluoedd drwy’r holl fyd bob dydd. Fel y dywed y mwyafrif o bobl sy’n hiraethu mewn galar wrthych, pan fo angau’n cipio’ch plentyn, eich gŵr, eich gwraig, eich rhiant, eich cyfaill, hwn yn wir ydi’r “gelyn olaf,” fel y’i galwyd gan yr ysgrifennwr Cristnogol Paul. Yn aml yr ymateb naturiol cynta’ i’r newyddion ofnadwy ydi ei wadu, “’Fedr e ddim bod yn wir! ’Dydw i ddim yn ei gredu e.” Mae ymatebion eraill yn dilyn yn aml, fel y byddwn ni’n gweld.—1 Corinthiaid 15:25, 26.

Fodd bynnag, cyn ystyried teimladau galar, beth am i ni ateb rhai cwestiynau pwysig. Ydi marwolaeth yn golygu diwedd y person hwnnw? Oes ’na unrhyw obaith y gwelwn ni ein hanwyliaid eto?

Mae ’Na Obaith Gwirioneddol

Fe gynigiodd yr ysgrifennwr Beiblaidd Paul obaith ymwared rhag “y gelyn olaf” hwnnw, angau. Fe ysgrifennodd: “Y gelyn olaf a ddileir yw angau.” “Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau.” (1 Corinthiaid 15:26, Y Beibl Cysegr-Lân) Pam y gallai Paul fod mor sicr o hynny? Am iddo gael ei ddysgu gan un a atgyfodwyd o’r meirw, Iesu Grist. (Actau 9:3-19) Dyna hefyd pam y gallai Paul ysgrifennu: “Gan mai trwy ddyn [Adda] y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd [Iesu Grist] y daeth atgyfodiad y meirw. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist.”—1 Corinthiaid 15:21, 22.

Fe ofidiodd Iesu yn fawr pan gyfarfu â gwraig weddw o Nain a gweld ei mab marw hi. Mae’r hanes yn y Beibl yn dweud wrthyn ni: “Pan gyrhaeddodd [Iesu] yn agos at borth y dref [Nain], dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau’n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o’r dref gyda hi. Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, ‘Paid ag wylo.’ Yna aeth ymlaen a chyffwrdd â’r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, ‘Fy machgen, ’rwy’n dweud wrthyt, cod.’ Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i’w fam. Cydiodd ofn ym mhawb a dechreusant ogoneddu Duw, gan ddweud, ‘Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith’, ac, ‘Y mae Duw wedi ymweld â’i bobl.’” Sylwch fel y tosturiodd Iesu gymaint nes iddo atgyfodi mab y weddw! Dychmygwch beth mae hyn yn ei ragarwyddo ynglŷn â’r dyfodol!—Luc 7:12-16.

Yno, o flaen llygad-dystion, fe gyflawnodd Iesu atgyfodiad bythgofiadwy. Ernes ydoedd o’r atgyfodiad ’roedd e eisoes wedi’i ragfynegi beth amser cyn y digwyddiad hwn, adferiad i fywyd ar y ddaear dan “nef newydd.” Ar yr achlysur hwnnw ’roedd Iesu wedi dweud: “Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef ac yn dod allan.”—Datguddiad 21:1, 3, 4; Ioan 5:28, 29; 2 Pedr 3:13.

Ymhlith llygad-dystion eraill i atgyfodiad ’roedd Pedr, ynghyd ag eraill o’r 12 oedd yn cadw cwmni i Iesu ar ei deithiau. Yn wir fe glywson’ nhw’r Iesu atgyfodedig yn siarad wrth Fôr Galilea. Mae’r cofnod yn dweud wrthyn ni: “‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, ‘cymerwch frecwast.’ Ond nid oedd neb o’r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, ‘Pwy wyt ti?’ Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd. Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i’w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.”—Ioan 21:12-14.

Felly, fe allai Pedr ysgrifennu ag argyhoeddiad llwyr: “Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw.”—1 Pedr 1:3.

Fe roddodd yr apostol Paul fynegiant i’w obaith hyderus pan ddywedodd: “Yr wyf yn credu pob peth sydd yn ôl y Gyfraith ac sy’n ysgrifenedig yn y proffwydi, ac yn gobeithio yn Nuw—ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.”—Actau 24:14, 15.

Felly fe all miliynau fod yn gadarn eu gobaith o weld eu hanwyliaid yn fyw eto ar y ddaear ond o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Beth fydd yr amgylchiadau hynny? Fe drafodir manylion pellach ynglŷn â’r gobaith ar gyfer ein hanwyliaid a gollwyd, sy’n seiliedig ar y Beibl, yn adran ola’r llyfryn hwn, dan y pennawd “Gobaith Sicr ar gyfer y Meirw.”

Ond yn gynta’ dowch inni ystyried cwestiynau y gallech fod yn eu holi os ydych chi’n hiraethu mewn galar o fod wedi colli anwylyn: Ydi e’n beth normal i alaru fel hyn? Sut fedra’i fyw gyda’m galar? Be’ all eraill ei wneud i fy helpu i ymdopi? Sut fedra’i helpu eraill sy’n hiraethu mewn galar? Ac yn bennaf, Beth mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â gobaith sicr ar gyfer y meirw? Fydda’ i’n gweld fy anwyliaid eto o gwbl rywdro? Ac ymhle?