Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut ’Medra’ i Fyw Gyda’m Galar?

Sut ’Medra’ i Fyw Gyda’m Galar?

“FE DEIMLAIS i lawer o bwysedd arna’i i gadw fy nheimladau i mewn,” eglura Mike wrth atgofio marw’i dad. I Mike, y peth gwrol i’w wneud oedd atal ei alar. Eto fe sylweddolodd e’n ddiweddarach ei fod yn anghywir. Felly pan gollodd cyfaill Mike ei daid, fe wyddai Mike beth i’w wneud. Fe ddywed: “Flwyddyn neu ddwy yn ôl, fe fyddwn i wedi ei daro’n ysgafn ar ei ysgwydd a dweud, ‘Bydd yn ddyn.’ ’Nawr fe gyffyrddais ei fraich e a dweud, ‘Teimla sut bynnag mae’n rhaid i ti deimlo. Fe wnaiff hynny dy helpu i ddygymod â’r peth. Os wyt ti am i mi fynd, mi â’ i. Os wyt ti am i mi aros, mi arhosa’ i. Ond paid â bod ofn teimlo.’”

Fe deimlodd MaryAnne hefyd bwysedd i gadw’i theimladau hi i mewn pan fu farw ei gŵr. “’Roeddwn i’n poeni gymaint am fod yn esiampl dda i eraill,” mae’n atgofio, “fel na chaniateais i mi fy hun gael teimladau normal. Ond yn y pen draw fe ddysgais nad oedd ceisio bod yn gefn i eraill ddim yn fy helpu. Fe ddechreuais ddadansoddi fy sefyllfa a dweud, ‘Cria os oes raid i ti grio. Paid â cheisio bod yn rhy ddewr. Mynna gael ei wared e o dy gyfansoddiad di.’”

Felly mae Mike a MaryAnne ill dau yn cymeradwyo: Caniatewch i chi’ch hun alaru! Ac maen’ nhw’n iawn. Pam? Am fod rhoi mynegiant i dristwch yn ollyngdod emosiynol angenrheidiol. Fe all gollwng eich teimladau ryddhau’r pwysedd sy’ arnoch chi. Mae rhoi mynegiant naturiol i emosiynau, os cysylltir hynny â dealltwriaeth a gwybodaeth gywir, yn caniatáu i chi roi persbectif gweddus i’ch teimladau.

Wrth gwrs, ’dyw pawb ddim yn mynegi tristwch galar yn yr un ffordd. Fe all ffactorau megis a fu farw’r anwylyn yn sydyn neu i farwolaeth ddilyn gwaeledd hir ddylanwadu ar ymateb emosiynol y rhai sy’n goroesi. Ond mae un peth yn ymddangos yn sicr: Fe all ymwrthod â rhoi mynegiant i’ch teimladau fod yn niweidiol yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae hi’n llawer iachach gollwng eich galar. Sut? Mae ’na gyngor ymarferol i’w gael yn yr Ysgrythurau.

Gollwng eich Galar—Sut?

Fe all siarad eich helpu chi i ymollwng. Yn dilyn marw pob un o’i ddeg plentyn, yn ogystal â rhai trasiedïau personol eraill, fe ddywedodd yr hen batriarch Job: “Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd; rhoddaf ryddid [Hebraeg, “gollwng”] i’m cwyn, llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.” (Job 1:2, 18, 19; 10:1) ’Fedrai Job ddim atal ei gŵyn mwyach. ’Roedd yn rhaid iddo ymollwng; ’roedd yn rhaid iddo “lefaru.” Yn yr un modd, fe ysgrifennodd y dramodydd Saesneg Shakespeare yn Macbeth: “Rho lef i’th gri; y mudan dristwch cudd sy’n llethu’r galon drom—ei thorri fydd.”

Felly mae siarad am eich teimladau â “chyfaill” fydd yn gwrando’n amyneddgar a chyda chydymdeimlad yn medru sicrhau peth gollyngdod. (Diarhebion 17:17) Mae rhoi profiadau a theimladau mewn geiriau yn aml yn ei gwneud hi’n haws i’w deall nhw ac i’w trin nhw. Ac os yw’r un sy’n gwrando yn berson galarus arall sy’ wedi ymdrin yn effeithiol â’i golled ei hun, efallai y medrwch chi loffa rhai awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdopi. Pan fu farw ei phlentyn, fe eglurodd un fam pam yr oedd siarad â gwraig arall a oedd wedi wynebu colled debyg wedi helpu: “’Roedd gwybod fod rhywun arall wedi bod trwy’r un peth, wedi dod allan ohono’n gyfan, a’i bod hi’n dal i fynd ac yn canfod rhyw fath o drefn yn ei bywyd eto yn fy nerthu i’n fawr.”

Mae enghreifftiau o’er Beibl yn dangos y gall ysgrifennu am eich teimladau eich helpu chi i roi mynegiant i’ch galar hiraethus

Beth os nad ydych chi’n gyfforddus yn siarad am eich teimladau? Yn dilyn marw Saul a Jonathan, fe gyfansoddodd Dafydd alarnad hynod o emosiynol gan dywallt tristwch ei alar iddi. Ymhen amser fe ddaeth y cyfansoddiad galarus hwn yn rhan o gofnod ysgrifenedig llyfr Ail Samuel yn y Beibl. (2 Samuel 1:17-27; 2 Cronicl 35:25) Yn yr un modd, mae rhai yn ei chael hi’n haws eu mynegi eu hunain yn ysgrifenedig. Mae un wraig weddw yn adrodd y byddai’n ysgrifennu ei theimladau ac yna ddyddiau’n ddiweddarach ddarllen drwy yr hyn a ysgrifenasai. ’Roedd hyn yn help iddi ymollwng.

Boed wrth siarad neu ysgrifennu, mae mynegi’ch teimladau yn medru eich helpu chi i ryddhau eich galar. Fe all helpu i ddileu camddeall hefyd. Fe eglura mam alarus: “Fe glywodd fy ngŵr a minnau am barau priod eraill yn ysgaru wedi colli plentyn, a ’doedden ni ddim am i hynny ddigwydd i ni. Felly pryd bynnag y teimlem ni’n ddig, eisiau beio’r naill a’r llall, fe fydden ni’n trafod y peth drwodd. ’Rwy’n credu inni’n wirioneddol dyfu’n agosach at ein gilydd drwy wneud hynny.” Felly, fe all rhoi hysbysrwydd i’ch teimladau eich helpu chi i ddeall er eich bod yn rhannu’r un golled, fod eraill yn galaru’n wahanol—yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain.

Peth arall fedr hybu gollwng galar ydi crio. Fe ddywed y Beibl fod ’na “amser i wylo.” (Pregethwr 3:1, 4) Yn sicr daw amser felly pan fo rhywun ’rydyn ni’n ei garu yn marw. Mae’n ymddangos fod gollwng dagrau galar yn rhan angenrheidiol o’r broses gwella.

Fe eglura menyw ifanc sut yr helpodd ffrind agos iddi hi i ymdopi pan fu ei mam farw. Mae hi’n atgofio: “’Roedd fy ffrind yno i mi bob amser. Fe griodd hi gyda mi. Fe siaradodd hi gyda mi. Mi ’roeddwn i’n medru bod mor rhwydd agored gyda fy nheimladau ac mi ’roedd hynny’n bwysig i mi. ’Doedd dim rhaid i mi deimlo’n anghysurus ynglŷn â chrio.” (Gweler Rhufeiniaid 12:15.) ’Ddylech chithau ddim teimlo cywilydd oherwydd eich dagrau chwaith. Fel ’rydyn ni wedi gweld, mae’r Beibl yn llawn enghreifftiau o wŷr a gwragedd â ffydd ganddyn’ nhw—gan gynnwys Iesu Grist—a wylodd ddagrau galar yng ngŵydd pawb heb deimlo’n ymddangosiadol anghysurus.—Genesis 50:3; 2 Samuel 1:11, 12; Ioan 11:33, 35.

Ym mhob diwylliant, mae pobl sy’n galaru yn gwerthfawrogi derbyn cysur

Efallai y gwelwch chi y bydd eich emosiynau yn ansefydlog braidd am gyfnod. Fe all dagrau lifo’n ddirybudd bron. Fe ddarganfu un wraig weddw y gallai siopa mewn archfarchnad (rhywbeth yr oedd hi wedi’i wneud yn aml gyda’i gŵr) orfodi dagrau yn enwedig wrth iddi estyn, yn ôl ei harfer, am nwyddau a fuasai’n hoff fwydydd gan ei gŵr. Byddwch yn amyneddgar gyda chi’ch hun. A pheidiwch â theimlo fod yn rhaid i chi gadw’r dagrau yn ôl. Cofiwch, maen’ nhw’n rhan naturiol ac angenrheidiol o’r galar.

Ymdrin Ag Euogrwydd

Fel ’rydym eisoes wedi nodi, mae rhai yn teimlo’n euog wedi colli rhywun annwyl trwy farwolaeth. Efallai y gall hyn helpu esbonio galar llym y gŵr ffyddlon Jacob pan arweiniwyd e i gredu i’w fab Joseff gael ei ladd gan “anifail gwyllt.” ’Roedd Jacob ei hun wedi anfon Joseff i edrych a oedd ei frodyr yn ddiogel. Felly y tebyg ydi i Jacob gael ei lethu gan deimladau euogrwydd, megis ‘Pam y gyrrais Joseff allan ar ei ben ei hun? Pam y gyrrais e allan i ardal yn llawn anifeiliaid gwyllt?’—Genesis 37:33-35.

Efallai eich bod chi’n teimlo fod rhyw esgeulustra ar eich rhan chi wedi cyfrannu at farw eich anwylyn. Mae cydnabod bod euogrwydd—boed e’n wir neu’n ddychmygol—yn ymateb naturiol i hiraeth galar yn gallu bod yn fuddiol ynddo’i hun. Yma eto, ’does dim rhaid i chi o angenrheidrwydd gadw teimladau o’r fath i chi eich hun. Fe all siarad am pa mor euog y teimlwch roi’r gollyngdod sy’ gymaint ei angen arnoch chi.

Ond, rhaid i chi sylweddoli, faint bynnag ’rydyn ni’n caru person arall, na fedrwn ni ddim rheoli’i fywyd e neu hi, ac na fedrwn ni ddim chwaith atal “hap a damwain” rhag dod i ran y rhai a garwn. (Pregethwr 9:11) Heblaw hyn, yn ddiamau ’doedd eich cymhellion chi ddim yn ddrwg. Er enghraifft, wrth beidio â threfnu gweld y meddyg yn gynt, ’oeddech chi’n bwriadu i’ch anwylyn glafychu a marw? Nag oeddech wrth gwrs! Felly ydych chi’n wir euog o achosi marw hwnnw? Nac ydych.

Fe ddysgodd un fam ymdrin â’r euogrwydd wedi i’w merch farw mewn damwain car. Mae hi’n egluro: “’Roeddwn yn teimlo’n euog imi ei hanfon allan. Ond fe ddeuthum i sylweddoli ei bod yn ddi-synnwyr teimlo felly. ’Doedd dim o’i le yn ei hanfon hi gyda’i thad i nôl neges. Damwain erchyll oedd hi, a dyna fe.”

‘Ond mae ’na gymaint o bethau yr hoffwn i fod wedi’u dweud neu eu gwneud,’ meddech chi efallai. Digon gwir, ond pwy ohonon ni all ddweud ein bod ni wedi bod yn dad, neu’n fam, neu’n blentyn perffaith? Mae’r Beibl yn ein hatgoffa ni: “Y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma ddyn perffaith.” (Iago 3:2; Rhufeiniaid 5:12) Felly derbyniwch y ffaith nad ydych chi’n berffaith. ’Wnaiff poeni am bob math o “os” ac “onibai” ddim newid dim oll, ond fe all arafu’ch adferiad chi.

Os oes gennych chi resymau digonol dros gredu fod eich euogrwydd chi’n real, ac nid yn ddychmygol, yna ystyriwch y ffactor bwysica’ oll i liniaru euogrwydd—maddeuant Duw. Mae’r Beibl yn ein sicrhau ni: “Os wyt ti, ARGLWYDD, [“Jehovah,” New World Translation of the Holy Scriptures] yn sylwi ar bechodau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll? Ond y mae gyda thi faddeuant.” (Salm 130:3, 4) ’Fedrwch chi ddim dychwelyd i’r gorffennol na newid dim. Ond, mi fedrwch chi erfyn am faddeuant Duw am wallau’r gorffennol. Be’ wedyn? Wel, os ydi Duw yn addo rhoi cychwyn newydd i chi, oni ddylech chithau faddau i chi eich hun?—Diarhebion 28:13; 1 Ioan 1:9.

Ymdrin â Dicter

Ydych chi hefyd yn teimlo braidd yn ddig, tuag at feddygon efallai, neu nyrsus, neu gyfeillion, neu hyd yn oed at yr un fu farw? Derbyniwch fod hyn hefyd yn ymateb cyffredin i golled. Efallai mai rhan naturiol o’r dolur ’rydych chi’n ei deimlo ydi’ch dicter chi. Fe ddywedodd un ysgrifennwr: “Dim ond drwy ddod yn ymwybodol o’r dicter—nid gweithredu o’i herwydd ond gwybod eich bod yn ei deimlo—y medrwch fod yn rhydd rhag ei effaith difaol.”

Fe all rhoi mynegiant i’r dicter neu ei rannu e fod o help hefyd. Sut? Yn sicr nid mewn ffrwydradau emosiynol di-reol. Mae’r Beibl yn rhybuddio fod dicter estynedig yn beryglus. (Diarhebion 14:29, 30) Ond efallai y cewch chi gysur o siarad amdano gyda chyfaill sy’n deall. Ac mae rhai yn ffeindio bod ymarfer egnïol yn ollyngdod buddiol pan fônt yn ddig.—Gweler hefyd Effesiaid 4:25, 26.

Er ei bod hi’n bwysig bod yn agored ac onest ynglŷn â’ch teimladau chi, rhaid wrth air o rybudd. Mae ’na fyd o wahaniaeth rhwng mynegi’ch teimladau a’u llwytho nhw ar eraill. ’Does dim angen beio eraill am eich dicter a’ch rhwystredigaeth chi. Felly cofiwch siarad yn rhydd am eich teimladau, ond nid mewn ffordd anghyfeillgar. (Diarhebion 18:21) Mae ’na un cymorth arbennig iawn fedr ein helpu ni i ymdopi â thristwch galar, a dyna fyddwn ni yn ei drafod ’nawr.

Cymorth Gan Dduw

Mae’r Beibl yn ein sicrhau ni: “Y mae’r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu’r briwedig o ysbryd.” (Salm 34:18) Ie, yn fwy na dim arall, perthynas â Duw all eich helpu chi i ymdopi â marwolaeth rhywun a garwch. Sut? Mae’r holl awgrymiadau ymarferol a gynigiwyd hyd yn hyn yn seiliedig ar Air Duw, y Beibl neu mewn cytgord ag e. Bydd eu gweithredu nhw yn eich helpu chi ymdopi.

Yn ogystal, rhaid peidio â dibrisio gwerth gweddi. Mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe’th gynnal di.” (Salm 55:22) Os gall siarad yn rhydd am eich teimladau â ffrind sy’n cydymdeimlo fod o gymorth, gymaint yn fwy y bydd agor eich calon i’r “Duw sy’n rhoi pob diddanwch” yn eich helpu chi!—2 Corinthiaid 1:3.

Nid dim ond gwneud inni deimlo’n well yn unig a wna gweddi. Y mae’r Un “sy’n gwrando gweddi” yn addo rhoi ysbryd sanctaidd i’w weision sy’n gofyn yn ddiffuant amdano. (Salm 65:2; Luc 11:13) Ac mae ysbryd sanctaidd Duw, neu ei rym gweithredol, yn medru sicrhau’r “gallu tra rhagorol” ar eich cyfer chi i fwrw ymlaen o un dydd i’r nesa’. (2 Corinthiaid 4:7) Cofiwch: gall Duw helpu’i weision ffyddlon i ddyfalbarhau yn erbyn unrhyw broblem a phob problem a all ddod i’w rhan nhw.

Mae un wraig briod a gollodd blentyn trwy farwolaeth yn galw i gof sut y bu i rym gweddi ei helpu hi a’i gŵr yn eu colled. “Os oedden ni gartre’ yn ystod y nos a phoen ein galar yn dod yn drech na ni, fe fydden ni’n gweddïo’n uchel gyda’n gilydd,” eglura. “Y tro cynta’ roedd yn rhaid inni wneud rhywbeth hebddi—cyfarfod cynta’r gynulleidfa yr aethom iddo, y gymanfa gynta’ a fynychwyd gennyn ni—fe fydden ni’n gweddïo am nerth. Wrth godi’n y bore a realiti’r cyfan yn ymddangos yn annioddefol, fe fydden ni’n gweddïo ar Jehofah i’n helpu ni. Am ryw reswm, ’roedd cerdded i mewn i’r tŷ ar fy mhen fy hun yn brofiad gwirioneddol drawmatig. Ac felly bob tro y deuwn adre ar fy mhen fy hun, yn syml fe fyddwn i’n gweddïo ar Jehofah a gofyn iddo fy helpu i gynnal rhyw fath o dawelwch os gwelai’n dda.” Mae’r wraig ffyddlon honno’n credu’n gadarn ac yn gywir i’r gweddïau hynny wneud gwahaniaeth. Fe fedrwch chithau hefyd brofi ‘tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau,’ mewn ymateb i’ch gweddïau dyfal.—Philipiaid 4:6, 7; Rhufeiniaid 12:12.

Y mae’r help mae Duw yn ei ddarparu yn bendant yn gwneud gwahaniaeth. Fe ddywedodd yr apostol Cristnogol Paul fod Duw yn “ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau . . . allu diddanu’r rhai sydd dan bob math o orthrymder.” Mae’n wir nad ydi help dwyfol ddim yn dileu’r boen, ond fe all ei gwneud hi’n haws i’w goddef. ’Dyw hynny ddim yn golygu na fyddwch chi’n crio mwyach neu y byddwch chi’n anghofio’ch anwylyn. Ond fe fedrwch chi wella. Ac wrth wella, fe all yr hyn ’rydych wedi’i brofi roi gwell dealltwriaeth i chi wrth helpu eraill i ymdopi â cholled debyg, a chydymdeimlo â nhw.—2 Corinthiaid 1:4.