Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cynnwys Y Llyfr

Cynnwys Y Llyfr

Cynnwys Y Llyfr

I berson sy’n mynd i mewn i lyfrgell am y tro cyntaf gall gweld y fath gasgliad o lyfrau fod yn ddigon i’w ddrysu. Ond o gael ychydig eglurhad ar sut mae’r llyfrau wedi’u trefnu, buan mae’n dysgu sut i ddod o hyd i bethau. Yn yr un modd, mae canfod eich ffordd o gwmpas y Beibl yn haws pan ddeallwch sut trefnir ei gynnwys.

MAE’R gair “Beibl” yn deillio o’r gair Groeg bi·bliʹa, oedd yn golygu “rholiau papyrws” neu “lyfrau.”1 Mewn gwirionedd casgliad—llyfrgell—o 66 llyfr unigol yw’r Beibl, a ysgrifennwyd dros gyfnod o ryw 1,600 mlynedd, o 1513 C.C.C. i tua 98 C.C.

Gelwir y 39 llyfr cyntaf, tua thri chwarter cynnwys y Beibl, yn Ysgrythurau Hebraeg, gan mai yn yr iaith honno yr ysgrifennwyd nhw gan fwyaf. Gellir rhannu’r llyfrau hyn yn gyffredinol yn dri grŵp: (1) Hanesyddol, Genesis i Esther, 17 llyfr; (2) Barddonol, Job i Ganiad Solomon, 5 llyfr; a (3) Phroffwydol, Eseia i Malachi, 17 llyfr. Mae’r Ysgrythurau Hebraeg yn trin hanes cynnar y ddaear a dynoliaeth yn ogystal â hanes cenedl Israel hen o’i chychwyn hyd at y bumed ganrif C.C.C.

Adwaenir y 27 llyfr arall wrth yr enw Ysgrythurau Cristionogol Groeg, am iddynt gael eu hysgrifennu yn yr iaith Roeg, iaith ryngwladol y dydd. Yn sylfaenol fe’u trefnir yn ôl eu cynnwys: (1) y 5 llyfr hanesyddol—yr Efengylau a’r Actau, (2) y 21 llythyr, a’r (3) Datguddiad. Mae’r Ysgrythurau Cristionogol Groeg yn canolbwyntio ar athrawiaethau a gweithgareddau Iesu Grist a’i ddisgyblion yn y ganrif gyntaf C.C.