Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD CHWECH

Lle Mae’r Meirw?

Lle Mae’r Meirw?
  • Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw?

  • Pam rydyn ni’n marw?

  • A fyddai’n gysur i wybod y gwir am farwolaeth?

1-3. Pa gwestiynau mae pobl yn eu gofyn am farwolaeth, a pha atebion y mae gwahanol grefyddau yn eu cynnig?

DYMA’R math o gwestiynau mae pobl wedi bod yn meddwl amdanyn nhw ers canrifoedd. Maen nhw’n gwestiynau pwysig. Does dim ots pwy ydyn ni neu le rydyn ni’n byw, mae’r atebion o ddiddordeb inni i gyd.

2 Yn y bennod flaenorol, gwelon ni sut mae pridwerth aberthol Iesu Grist wedi agor y ffordd i fywyd tragwyddol. Dysgon ni hefyd fod y Beibl yn rhagweld adeg pan ‘na fydd marwolaeth mwyach.’ (Datguddiad 21:4) Yn y cyfamser, marw yw hanes pob un ohonon ni. “Y mae’r byw yn gwybod y byddant farw,” meddai’r Brenin doeth Solomon. (Pregethwr 9:5) Rydyn ni’n ymdrechu i fyw mor hir â phosibl. Ond eto, rydyn ni’n gofyn beth sy’n digwydd ar ôl inni farw.

3 Pan fo rhai sy’n annwyl inni’n marw, rydyn ni’n galaru. Efallai byddwn ni’n gofyn: ‘Beth sydd wedi digwydd iddyn nhw? Ydyn nhw’n dioddef? Ydyn nhw’n ein gwylio ni? Allwn ni eu helpu nhw? Fyddwn ni yn eu gweld nhw eto?’ Mae crefyddau’r byd yn cynnig gwahanol atebion i’r cwestiynau hyn. Mae rhai yn dysgu y byddwch chi’n mynd i’r nefoedd os ydych chi’n byw bywyd da, ond byddwch yn llosgi yn uffern os ydych yn byw bywyd drwg. Mae crefyddau eraill yn dysgu bod pobl, wrth farw, yn mynd ymlaen i fyd yr ysbrydion i ymuno â’u hynafiaid. Mae eraill eto’n dysgu bod y meirw yn mynd i ryw isfyd i gael eu barnu ac yna yn cael eu hailymgnawdoli, neu eu haileni mewn corff arall.

4. Pa syniad sylfaenol sydd gan nifer o grefyddau ynghylch marwolaeth?

4 Mae un syniad sylfaenol yn perthyn i’r dysgeidiaethau crefyddol hyn i gyd, sef bod rhan ohonon ni yn goroesi marwolaeth y corff. Barn bron pob crefydd, hen a newydd, yw ein bod ni, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, yn parhau i fyw gyda’r gallu i weld, i glywed, ac i feddwl. Ond eto, sut gall hynny fod yn wir? Mae ein synhwyrau a’n meddyliau i gyd yn gysylltiedig â gweithgarwch yr ymennydd. Adeg marwolaeth, mae’r ymennydd yn stopio gweithio. Nid yw ein hatgofion, na’n teimladau, na’n synhwyrau yn parhau i weithio’n annibynnol mewn rhyw ffordd ryfedd. Dydyn nhw ddim yn goroesi dinistr yr ymennydd.

BETH SY’N DIGWYDD MEWN GWIRIONEDD ADEG MARWOLAETH?

5, 6. Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu ynglŷn â chyflwr y meirw?

5 Dydy’r hyn sy’n digwydd adeg marwolaeth ddim yn ddirgelwch i Jehofa, Creawdwr yr ymennydd. Mae ef yn gwybod y gwir, ac yn ei Air, y Beibl, mae’n esbonio beth yw cyflwr y meirw. Mae dysgeidiaeth y Beibl yn glir: Pan fo rhywun yn marw, mae’n peidio â bodoli. Gwrthwyneb bywyd yw marwolaeth. Dydy’r meirw ddim yn gweld nac yn clywed nac yn meddwl. Does dim rhan ohonon ni sy’n goroesi marwolaeth y corff. Does gennyn ni ddim enaid anfarwol nac ysbryd anfarwol ychwaith. *

Lle aeth y fflam?

6 Ar ôl i Solomon nodi bod y byw yn gwybod y byddan nhw’n marw, ysgrifennodd: “Ond nid yw’r meirw yn gwybod dim.” Yna, ymhelaethodd ar y gwirionedd sylfaenol hwnnw wrth ddweud na all y meirw garu neu gasáu “oherwydd yn [y bedd], . . . nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb.” (Darllenwch Pregethwr 9:5, 6, 10.) Yn yr un modd, pan fo dyn yn marw mae Salm 146:4 yn dweud: “Derfydd am ei gynlluniau.” Meidrolion ydyn ni a dydyn ni ddim yn goroesi marwolaeth y corff. Mae’r bywyd sydd gennym fel fflam cannwyll. Pan gaiff y fflam ei diffodd, nid yw’n mynd i rywle arall. Yn syml, mae wedi peidio â bodoli.

BETH DDYWEDODD IESU YNGLŶN Â MARWOLAETH?

7. Sut eglurodd Iesu beth yw cyflwr y meirw?

7 Soniodd Iesu am gyflwr y meirw. Cododd y pwnc pan fu farw Lasarus, ffrind agos i Iesu. Dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno.” Roedd y disgyblion yn meddwl bod Iesu’n golygu mai cysgu er mwyn gwella o ryw salwch oedd Lasarus. Ond wedi camddeall oedden nhw. Esboniodd Iesu: “Y mae Lasarus wedi marw.” (Darllenwch Ioan 11:11-14.) Sylwch fod Iesu’n cymharu marwolaeth â chwsg. Doedd Lasarus ddim yn y nef nac yn llosgi mewn uffern danllyd. Nid oedd yn cyfarfod ag angylion na hynafiaid. Nid oedd yn cael ei aileni yn berson arall. Roedd yn gorffwys yn farw, fel petai’n cysgu’n drwm heb freuddwydio. Mae adnodau eraill hefyd yn cymharu marwolaeth â chwsg. Er enghraifft, pan gafodd y disgybl Steffan ei labyddio, mae’r Beibl yn dweud “fe hunodd.” (Actau 7:60) Yn yr un modd, ysgrifennodd yr apostol Paul am rai yn ei amser ef a oedd “wedi huno,” sef wedi marw.—⁠1 Corinthiaid 15:6.

Creodd Jehofa fodau dynol i fyw am byth ar y ddaear

8. Sut rydyn ni’n gwybod nad bwriad gwreiddiol Duw oedd i bobl farw?

8 Ai bwriad gwreiddiol Duw oedd i bobl farw? Dim o gwbl! Creodd Jehofa ddyn i fyw am byth ar y ddaear. Fel y dysgon ni gynnau yn y llyfr hwn, gosododd Duw y pâr dynol cyntaf mewn paradwys hyfryd. Rhoddodd iechyd perffaith iddyn nhw. Pethau da yn unig oedd Jehofa yn eu dymuno ar eu cyfer nhw. A fyddai rhiant cariadus eisiau i’w blant ddioddef poen henaint a marwolaeth? Na fyddai, wrth gwrs! Caru ei blant yr oedd Jehofa ac roedd eisiau iddyn nhw fwynhau hapusrwydd diderfyn ar y ddaear. Mae’r Beibl yn dweud: “Rhoddodd [Jehofa] dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl.” (Pregethwr 3:11) Creodd Duw ni â’r dymuniad i fyw am byth ynon ni. Ac y mae wedi agor y ffordd i’r dymuniad hwnnw gael ei wireddu.

PAM Y MAE POBL YN MARW

9. Pa amod roddodd Jehofa ar Adda, a pham nad oedd ufuddhau i’r gorchymyn hwn yn anodd?

9 Pam, felly, mae pobl yn marw? I gael yr ateb, rhaid inni ystyried beth ddigwyddodd pan oedd dim ond un dyn ac un ddynes ar y ddaear. Mae’r Beibl yn egluro: “Gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i’r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o’r tir.” (Genesis 2:9) Ond, roedd yna un amod. Dywedodd Jehofa wrth Adda: “Cei fwyta’n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi’n sicr o farw.” (Genesis 2:16, 17) Doedd hi ddim yn anodd ufuddhau i’r gorchymyn hwn. Roedd llawer o goed eraill i Adda ac Efa fwyta ohonyn nhw. Ond nawr roedd ganddyn nhw gyfle arbennig i ddangos eu bod nhw’n ddiolchgar i’r Un oedd wedi rhoi popeth iddyn nhw, gan gynnwys bywyd perffaith. Byddai ufudd-dod yn dangos hefyd eu bod nhw’n parchu awdurdod eu Tad nefol, a’u bod nhw’n croesawu ei gyfarwyddyd cariadus.

10, 11. (a) Sut daeth y pâr dynol cyntaf i fod yn anufudd i Dduw? (b) Pam roedd anufudd-dod Adda ac Efa yn fater difrifol?

10 Gwaetha’r modd, dewisodd y pâr dynol cyntaf anufuddhau i Jehofa. Trwy gyfrwng sarff, gofynnodd Satan i Efa: “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o’r un o goed yr ardd’?” Atebodd Efa: “Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd, ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, ‘Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.’”—⁠Genesis 3:1-3.

11 “Na! ni fyddwch farw,” meddai Satan. “Ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg.” (Genesis 3:4, 5) Roedd Satan am i Efa gredu y byddai hi’n well ei byd ar ôl bwyta’r ffrwyth gwaharddedig. Yn ôl Satan, ganddi hi oedd yr hawl i benderfynu beth oedd yn iawn a beth oedd yn anghywir; gallai wneud fel y mynnai. Cyhuddodd Satan Jehofa o ddweud celwydd am ganlyniadau bwyta’r ffrwyth. Roedd Efa’n credu Satan. Felly cymerodd beth o’r ffrwyth a’i fwyta. Yna, rhoddodd hi rywfaint i’w gŵr ac fe wnaeth ef fwyta hefyd. Doedden nhw ddim yn gwneud hyn yn ddiarwybod. Roedden nhw’n gwybod eu bod nhw’n gwneud yr union beth yr oedd Duw wedi dweud wrthyn nhw am beidio â’i wneud. Trwy fwyta’r ffrwyth, dewison nhw anufuddhau gorchymyn syml a rhesymol, a hynny yn fwriadol. Dirmygu eu Tad nefol a’i awdurdod yr oedden nhw. Roedd y fath ddiffyg parch tuag at eu Creawdwr cariadus yn gwbl ddiesgus!

12. Beth all ein helpu ni i ddeall sut roedd Jehofa yn teimlo pan ddewisodd Adda ac Efa wrthryfela yn ei erbyn?

12 Meddyliwch am hyn: Sut byddech chi’n teimlo petaech chi’n magu mab neu ferch a gofalu amdanyn nhw ond iddyn nhw wedyn fod yn anufudd i chi a hynny mewn ffordd a ddangosodd nad oedden nhw yn eich caru na’ch parchu? Byddai hynny yn dorcalonnus. Dychmygwch felly gymaint oedd poen Jehofa o weld Adda ac Efa yn dewis gwrthryfela yn ei erbyn.

O’r llwch y daeth Adda, ac i’r llwch y dychwelodd

13. Beth ddywedodd Jehofa y byddai’n digwydd i Adda adeg ei farwolaeth, a beth mae hyn yn ei olygu?

13 Ar ôl i Adda ac Efa anufuddhau i Jehofa, doedd ganddo ddim rheswm i gynnal eu bywydau am byth. Buon nhw farw, yn union fel y dywedodd Jehofa. Roedd Adda ac Efa wedi peidio â bod. Aethon nhw ddim ymlaen i fyw fel ysbrydion yn rhywle arall. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd beth ddywedodd Jehofa wrth alw Adda i gyfrif am ei anufudd-dod. Dywedodd Duw: ‘Dychweli i’r pridd, oherwydd ohono y’th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli.’ (Genesis 3:19) Roedd Duw wedi creu Adda o lwch y tir. (Genesis 2:7) Cyn hynny, doedd Adda ddim yn bodoli. Felly, pan ddywedodd Jehofa y byddai Adda yn dychwelyd i’r pridd, roedd hyn yn golygu y byddai Adda yn dychwelyd i gyflwr anfodolaeth. Byddai Adda mor ddifywyd â’r llwch yr oedd wedi ei wneud ohono.

14. Pam rydyn ni’n marw?

14 Gallai Adda ac Efa fod wedi bod yn fyw heddiw, ond buon nhw farw oherwydd iddyn nhw ddewis anufuddhau i Dduw ac felly fe wnaethon nhw bechu. Rydyn ni’n marw oherwydd bod cyflwr pechadurus Adda, ynghyd â marwolaeth, wedi ei drosglwyddo i’w ddisgynyddion i gyd. (Darllenwch Rhufeiniaid 5:12.) Mae’r pechod hwnnw yn debyg i afiechyd etifeddol ofnadwy nad oes modd i neb ddianc rhagddo. Mae’r canlyniad, marwolaeth, yn felltith. Gelyn yw marwolaeth, nid ffrind. (1 Corinthiaid 15:26) Gallwn ni fod yn ddiolchgar iawn fod Jehofa wedi trefnu’r pridwerth er mwyn ein hachub ni rhag y gelyn arswydus hwn!

MAE GWYBOD Y GWIR AM FARWOLAETH YN FUDDIOL

15. Pam mae gwybod y gwir am farwolaeth yn gysur?

15 Mae dysgeidiaeth y Beibl am gyflwr y meirw yn gysur. Fel rydyn ni wedi ei weld, dydy’r meirw ddim yn dioddef poen na loes calon. Does dim rheswm i’w hofni, oherwydd fedran nhw ddim peri niwed inni. Does dim angen ein help ni arnyn nhw ac ni fedran nhw ein helpu ni. Dydyn ni ddim yn gallu siarad â nhw, a dydyn nhw ddim yn gallu siarad â ni. Mae llawer o arweinwyr crefyddol yn honni’n anghywir eu bod nhw’n medru helpu’r meirw, ac mae’r bobl sydd yn credu’r arweinwyr hynny yn rhoi arian iddyn nhw. Ond mae gwybod y gwir yn ein hamddiffyn ni rhag cael ein twyllo gan y rhai sy’n dysgu’r fath gelwyddau.

16. Pwy sydd wedi dylanwadu ar ddysgeidiaethau llawer o grefyddau, ac ym mha ffordd?

16 Ydy eich crefydd chi’n cytuno â’r hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu am y meirw? Dydy’r rhan fwyaf o grefyddau ddim. Pam? Oherwydd bod Satan wedi dylanwadu ar eu dysgeidiaethau. Mae’n defnyddio gau grefydd i berswadio pobl i gredu y byddan nhw’n parhau i fyw ym myd yr ysbrydion ar ôl i’r corff farw. Celwydd yw hyn y mae Satan yn ei raffu â chelwyddau eraill i droi pobl oddi wrth Jehofa Dduw. Sut felly?

17. Pam mae’r ddysgeidiaeth fod Jehofa yn poenydio pobl am byth yn sarhad arno?

17 Fel y gwelon ni gynnau, mae rhai crefyddau’n dysgu bod unigolion sy’n byw bywydau drwg yn mynd i rywle tanllyd ar ôl marw i ddioddef am byth. Amharchu Duw mae’r ddysgeidiaeth hon. Duw cariad yw Jehofa ac ni fyddai byth yn gwneud i bobl ddioddef fel hyn. (Darllenwch 1 Ioan 4:8.) Sut byddech chi’n teimlo am ddyn sy’n cosbi plentyn anufudd drwy ddal ei ddwylo yn y tân? Fyddech chi’n parchu dyn o’r fath? A fyddech chi eisiau ei adnabod hyd yn oed? Na fyddech, yn bendant! Byddech chi’n siŵr o feddwl ei fod yn ddyn creulon iawn. Ond mae Satan am inni gredu bod Jehofa yn poenydio pobl mewn tân am byth—⁠am filiynau o flynyddoedd!

18. Pa gelwydd crefyddol sydd y tu ôl i addoli’r meirw?

18 Mae Satan hefyd yn defnyddio rhai crefyddau i ddysgu bod pobl yn troi’n ysbrydion ar ôl iddyn nhw farw ac y dylai’r byw eu parchu a’u hanrhydeddu nhw. Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, gall ysbrydion y meirw fod yn gyfeillion grymus neu’n elynion ofnadwy. Mae llawer yn credu’r celwydd hwn. Maen nhw’n ofni’r meirw ac yn eu hanrhydeddu a’u haddoli. Yn groes i hyn, mae’r Beibl yn dysgu fod y meirw yn cysgu, ac y dylen ni addoli dim ond y gwir Dduw Jehofa, ein Creawdwr a’n Cynhaliwr.—⁠Datguddiad 4:11.

19. Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein helpu ni i ddeall pa ddysgeidiaeth arall o’r Beibl?

19 Mae gwybod y gwir am y meirw yn eich amddiffyn chi rhag cael eich camarwain gan gelwyddau crefyddol. Mae hefyd yn eich helpu chi i ddeall athrawiaethau eraill y Beibl. Er enghraifft, unwaith eich bod chi’n sylweddoli nad ydy pobl yn mynd i fyd yr ysbrydion ar ôl marw, bydd yr addewid o fywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear yn golygu llawer iawn mwy i chi.

20. Pa gwestiwn byddwn ni’n ei ystyried yn y bennod nesaf?

20 Amser maith yn ôl, cododd Job y cwestiwn hwn: “Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?” (Job 14:14) Ydy hi’n bosibl i unigolyn difywyd sy’n cysgu mewn marwolaeth ddod yn ôl yn fyw? Mae dysgeidiaeth y Beibl yn hyn o beth o gysur mawr, fel y gwelwn ni yn y bennod nesaf.

^ Par. 5 Am drafodaeth ar y geiriau “enaid” ac “ysbryd,” gweler yr erthygl “‘Enaid’ ac ‘Ysbryd’—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.